Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn fater penodol iawn yr ydych chi wedi ei godi, ac mae'r ffaith y bu'n fater o achos llys—nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cael datganiad llafar. Ond byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog ystyried eich cwestiwn yn ei gyfanrwydd, ac, unwaith eto, os yw'n credu bod rhagor o wybodaeth y gall ei rhoi, bydd yn ysgrifennu at yr Aelod.