3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu — Diweddariad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:00, 7 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn hefyd am y mecanweithiau ar gyfer craffu ar y rhaglen lywodraethu gan y bydd Aelodau dynodedig yn dod o Blaid Cymru yn awr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi a gweithio o fewn y Llywodraeth? Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith i graffu ar Aelodau dynodedig, oherwydd tymor newydd yw hwn, mae hi'n sefyllfa newydd. Rwy'n llongyfarch Siân Gwenllian, sef y gyntaf i'w phenodi yn Aelod dynodedig yn y cytundeb hwn, rwy'n credu. Ond a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig craffu ar eu swyddogaeth nhw o fewn y Llywodraeth a bod cyfle yn cael ei roi yn amser y Llywodraeth i ni yn yr wrthblaid graffu ar yr Aelodau hynny? Oherwydd nid gwaith i'r Llywydd yn unig yw hwn; mae'r Llywodraeth yn rheoli busnes ar ddydd Mawrth ac, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei deall, gellid sicrhau bod amser ar gael i hynny ddigwydd. Felly, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni gael deall hyn, oherwydd bod hon yn gytundeb tair blynedd; nid cytundeb tair wythnos yw hi, cytundeb tair blynedd yw hi, ac mae'n bwysig ein bod ni'r Aelodau yn yr wrthblaid yn cael y cyfle hwnnw i graffu ar swyddogaeth yr Aelod dynodedig sy'n cefnogi Gweinidogion ar y fainc flaen.

Hoffwn i ddeall hefyd ba gynnydd y mae'r rhaglen lywodraethu yn ei wneud o ran amseroedd aros, yn enwedig yr amseroedd aros cronig yr ydym ni'n eu gweld oherwydd pandemig COVID lle, os ydych chi'n tynnu pobl ifanc allan o'r amseroedd aros hynny, mae bron i un ym mhob pedwar o bobl ar restr aros rywle yng Nghymru erbyn hyn. Os nad ydym ni'n ofalus, ac os nad yw eich Llywodraeth chi yn ofalus, fe allai'r amseroedd aros hyn lethu'r Llywodraeth yn y pen draw wrth fynd ymlaen. Rwy'n deall bod y Gweinidog iechyd blaenorol wedi dweud y byddai'n cymryd tymor Cynulliad llawn, neu dymor seneddol, i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn, ond mae hi'n bwysig, yn fy marn i, i ni ddeall pa gynnydd sy'n cael ei wneud, oherwydd y tu ôl i bob ystadegyn sy'n dod i'r amlwg mae unigolyn a theulu ag anwylyd sydd, yn y pen draw, yn debygol o fod mewn poen echrydus o ryw fath yn aros am driniaeth o fewn ein GIG ni.

Rwy'n sylwi na wnaethoch chi sôn am y Ddeddf aer glân o gwbl, Prif Weinidog, a oedd yn rhan o'ch maniffesto arweinyddiaeth chi ac a oedd yn bwynt trafod allweddol yn yr etholiad seneddol a gawsom ni ym mis Ebrill. Byddwn i'n falch o wybod a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny, gan fy mod i'n gwybod o lobïo a gan sefydliadau allanol hefyd fod angen mawr am symud ymlaen yn hyn o beth. Pe byddai Mike Hedges yma, rwy'n siŵr y byddai ef yn ymuno â mi yn hyn o beth, gan fy mod i'n gwybod ei fod wedi cadw llygad barcud ar y cynnydd, neu ddiffyg hynny o bosibl, hyd yn hyn o ran cyflwyno Deddf aer glân.

O ran prydau ysgol am ddim, sy'n bolisi canolog o'r cytundeb yr ydych chi wedi ei wneud gyda Phlaid Cymru, byddwn i'n ddiolchgar ac rwy'n siŵr y byddai llawer o bobl eraill yn ddiolchgar o gael deall goblygiadau cyllidebol y polisi hwn a cheisio deall sut y mae hynny'n cydbwyso â'r angen i'r rhai sydd â'r gallu mwyaf wneud y cyfraniadau mwyaf. Nid wyf i'n siŵr ei bod yn bolisi synhwyrol galluogi cyfreithwyr, gwerthwyr tai, a chyfrifwyr i fanteisio ar brydau ysgol am ddim i'w plant pan fo'r system eisoes yn galluogi'r rhai sydd ar swyddi incwm heriol gael prydau ysgol am ddim fel dylai hi fod, yn wir. Nid wyf i o'r farn bod y bonllefau o lawenydd yn St Andrew's Crescent yng Nghaerdydd, oherwydd y byddan nhw'n cael manteisio ar brydau ysgol am ddim bellach, yn ddefnydd da iawn o adnoddau cyhoeddus gwerthfawr, a dweud y lleiaf.

Rydym ni yn cytuno ar ddiwygio amseroedd tymhorau ysgol. Rwy'n credu bod hwnnw'n gynnig synhwyrol. Rwy'n cofio pan ddes i yma am y tro cyntaf yn 2007, y bu Jane Hutt am gyfnod byr iawn yn Weinidog addysg bryd hynny, ac rwy'n cofio codi'r pwynt penodol hwnnw gyda hi. Efallai fod rhai pobl wedi anghofio hynny, ond rwyf i yn cofio codi'r pwynt hwnnw ac ar y pryd nid oedd hi'n ymddangos i mi fod llawer o fynd ar y syniad arbennig hwnnw.

Rydym ni yn awyddus i weld cynnydd yn y system ofal. Rydym ni yn awyddus i weld cynnydd o ran y gronfa diogelwch adeiladu, y mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn amdani, ac rwyf i'n deall bod datganiad i ddod yr wythnos nesaf ynglŷn â hyn, ond mae hi'n hanfodol bwysig fod y datganiad hwnnw yn cyflwyno cynigion pendant i fynd i'r afael â'r maes allweddol hwn sy'n creu anawsterau i fywydau llawer o drigolion ar hyn o bryd.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at ddiwygio llywodraeth leol, ac at y fformiwla ariannu yn arbennig. Pob lwc gyda hynny, ddywedwn i, a bod yn onest gyda chi. Rwyf i'n credu y byddwch chi'n cael amser heriol, a dweud y lleiaf, yn hynny o beth, Prif Weinidog. Ond dyna yw hanfod y Llywodraeth, herio'r pethau hyn a sicrhau ein bod ni'n rhoi atebion ar waith, neu a ddylwn i ddweud eich bod chi'n rhoi atebion ar waith. Ond yr hyn y byddwn i'n falch o geisio'i ddeall yw ai dull gweithredu ar ddau gam yw hwn: (1) ailbrisio i ddechrau, ac yna (2) diwygio mwy sylfaenol. Ac os felly, a fyddai'r ddwy agwedd yn cael eu cwblhau o fewn y cyfnod hwn o bum mlynedd yn y Llywodraeth, neu a fydd yr ailbrisio yn digwydd yn ystod y tymor hwn, a diwygiadau mwy sylfaenol ar ôl 2026? Rwy'n credu, yn arbennig cyn yr etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesaf, fod angen i bobl wybod beth yw cyfeiriad y daith o ran y maes polisi pwysig hwn. Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ati, mae hi'n 20 mlynedd ers yr ailbrisio diwethaf, ond mae'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â hynny yn heriol a dweud y lleiaf.

Y pwynt olaf yr hoffwn i ei godi gyda chi nawr yw'r comisiwn cyfansoddiadol, yr wyf i ar ddeall ei fod newydd ei roi ar waith ar hyn o bryd. I fodloni fy chwilfrydedd personol yn unig y mae hyn. Wrth ddarllen y ddogfen bartneriaeth gyda Phlaid Cymru, mae'n dweud y bydd yr adroddiad interim a'u hadroddiad terfynol yn cael eu cyflwyno i'r ddwy blaid. Hoffwn i wybod pam mae hynny wedi ei gynnwys yn y ddogfen fel sefyllfa bod yn rhaid i'r comisiwn cyfansoddiadol hwnnw gyflwyno ei adroddiad interim a'i adroddiad terfynol fel pe bai'n fater i Blaid Cymru a'r Blaid Lafur yn unig gymryd perchnogaeth o'r ddogfen honno. Felly, i fodloni fy chwilfrydedd i fy hun y mae hynny yn bennaf, ond byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ateb y pwyntiau yr wyf i wedi eu cyflwyno i chi.