Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Wel, rwy'n diolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am y cwestiynau manwl yna, ac a gaf i ddiolch iddo am y ffordd y dechreuodd, am ei gefnogaeth i'r alwad i bobl ddod ymlaen i gael eu brechu? Mae gan bob un Aelod o'r Senedd gyrhaeddiad yn ei gymuned ei hun. Rydym ni'n cyhoeddi pethau yn gyson; rydym ni'n ceisio cyfathrebu bob amser â phobl sy'n pleidleisio yn ein hardaloedd ni, ac mae unrhyw beth y gall unrhyw un ohonom ni ei wneud i fynegi'r neges honno yn gyfraniad bach arall at adeiladu'r amddiffyniad y bydd ei angen arnom ni yng Nghymru, pe byddem ni'n gweld ton o haint omicron o'r fath y mae rhai dadansoddwyr yn ei hawgrymu.
Nid yw annibyniaeth yn ymddangos o gwbl yn y cytundeb cydweithredu. Mae'r pwnc yn un o'r pethau hynny y byddwn ni'n parhau i ddadlau llawer yn eu cylch, rwy'n siŵr, ar draws llawr y Senedd. Nid yw safbwynt fy mhlaid i wedi newid o gwbl. Rydym ni'n credu mewn cyfundrefn datganoli sefydledig, cyfundrefn o ddatganoli na ellir ei datgymalu yn ôl mympwy Llywodraeth yn San Steffan, ond ein cred ni hefyd yw ei bod hi'n well i Gymru fod mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus a'i bod hi'n well i'r Deyrnas Unedig fod Cymru yn rhan o honno, ac rwy'n gwbl sicr y byddwn ni'n parhau i drafod y gwahanol safbwyntiau hynny.
Yn fy marn wirioneddol i, Llywydd, nid mater i mi yw craffu. Rwy'n wyliadwrus iawn o'r syniad y dylai'r Llywodraeth fod â rhan mewn llunio trefniadau i graffu ar y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud, ond fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid bwyntiau pwysig iawn, yn bendant. Rwy'n gwybod y bydd y Pwyllgor Busnes wedi cymryd papur heddiw y bydd grwpiau yn y Senedd yn dymuno ei ystyried, ac yn y pen draw, mater i'r Senedd yw penderfynu ar ei threfniadau ei hun, ac nid i'r Llywodraeth fod â rhan uniongyrchol yn hynny.
Nid wyf i'n anghytuno â rhan o'r hyn a ddywedodd yr Aelod am amseroedd aros yn y GIG. Mae'n fater sy'n peri gofid mawr i mi fod gennym ni'r amseroedd aros yn GIG Cymru ar eu lleiaf ers 2014 ac yn parhau i leihau ar ddechrau'r pandemig ond rydym ni'n wynebu sefyllfa wahanol iawn erbyn hyn, fel pob rhan o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n falch, i ryw raddau, o weld rhai amseroedd aros yn byrhau yn y ffigurau diweddaraf o ran rhai o'r cyflyrau mwyaf enbyd. Buom ni'n siarad am ganser yn gynharach, ac fe ostyngodd amseroedd aros o ran canser yn y cyfnod diweddaraf, ond datblygiadau bach yw'r rhain mewn sefyllfa anodd iawn, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda Llywodraethau eraill. Os oes unrhyw syniadau nad ydym ni wedi meddwl amdanyn nhw ein hunain a all ein helpu ni i weld y cynnydd yr ydym ni'n awyddus i'w gael o ran amseroedd aros yng Nghymru, yna wrth gwrs rydym ni'n awyddus i ddysgu'r pethau hynny o unrhyw ffynhonnell a allai fod ar gael.
Mae'r rhaglen lywodraethu yn parhau i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno Deddf aer glân i Gymru, sy'n gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, ac ymestyn y ddarpariaeth o fonitro ansawdd aer, a bydd y broses honno yn dechrau yn gynnar yn nhymor y Senedd gyda Phapur Gwyn normal, ac yna fe ddaw Bil i'r Senedd ei ystyried. Rwy'n parhau i edrych ymlaen at weithio gyda rhannau eraill o'r Siambr sydd â diddordeb cyffredin yn hyn.
Mae ein barn ar y mater o brofion modd a gwasanaethau cyffredinol yn hanfodol wahanol. Rwyf i o'r farn mai prydau ysgol mewn rhai ffyrdd yw'r esiampl fwyaf amlwg o'r effaith y mae profion modd yn ei chael, oherwydd eu bod nhw'n gwaradwyddo'r bobl hynny y dylai'r system fod yn eu cefnogi. Rwy'n cofio hen, hen stori, Llywydd, y bydd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a rhai eraill yma yn ei chofio. Byddai cyn-arweinydd Cyngor Sir De Morgannwg, yr Arglwydd Jack Brooks, yn adrodd stori am sut yr aeth ef, yn 18 oed, i neuadd ddawnsio yma yng Nghaerdydd, yn ei ddillad gorau, ac fe welodd ferch ifanc yn croesi'r ystafell tuag ato ac roedd e'n credu efallai y byddai'r noson yn un fwy llwyddiannus nag yr oedd wedi tybio ar y dechrau, a daeth y ferch ifanc hon ato a dweud, 'Rwy'n gwybod pwy wyt ti', meddai hi, 'Jack Brooks wyt ti, onid e?' ac fe ddywedodd, 'Ie', a dywedodd hi, 'Ti oedd yr un oedd yn arfer cael prydau ysgol am ddim pan oeddem ni yn yr ysgol gynradd gyda'n gilydd.' A hyd yn oed ar yr oedran hwnnw, fe barhaodd boen y dolur a achosodd y digwyddiad hwnnw iddo byth oddi ar hynny ac mae'n rhaid mai 50 mlynedd yn ddiweddarach pan yr oedd yn dweud y stori honno wrthym ni ac roedd y graith yno o hyd, roedd hynny i'w glywed yn ei lais. A dyna pam, ar yr ochr hon i'r Siambr, ein bod ni'n credu bod gwasanaethau cyffredinol lle nad oes gwarthnod ynghlwm—. Ac wrth gwrs, dylai'r bobl yn St Andrews Crescent dalu, ond dylen nhw dalu drwy'r system drethu, system drethu raddedig sy'n cymryd mwy yn ôl oddi wrth bobl sydd â mwy i ddechrau, ac nid trwy system prawf modd lle nad yw'r bobl hynny â gwir angen am y gwasanaeth yn ei gael mewn gwirionedd, ond yn cael yr holl anfanteision sy'n mynd law yn llaw â hynny. Fe fydd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn nodi'r goblygiadau cyllidebol; rydym ni wedi gwneud darpariaeth gyllidebol briodol ar gyfer y polisi a nodir yn y cytundeb.
Diolch i Andrew R.T. Davies am yr hyn a ddywedodd am ddiwygio'r tymor ysgol a'r flwyddyn ysgol, bydd hi'n dda cael gweithio gyda'n gilydd ar hynny, ac ar faterion gofal cymdeithasol a diogelwch adeiladau. Mae'r cynnig ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn broses ar ddau gam. Yn y tymor Senedd hwn, rwy'n awyddus i ni fynd i'r afael â'r materion anodd sy'n ymwneud â diwygio'r system bresennol, fel bydd y system bresennol mor deg ag y gallwn ni ei gwneud hi, ac ar yr un pryd, byddwn ni'n mynd ati i weithio ar y posibiliadau ar gyfer diwygio mwy sylfaenol. Cafodd llawer o waith ei wneud ar hyn yn y tymor Senedd diwethaf, ond os ydych chi am, ddywedwn ni, ddisodli'r dreth gyngor â math o drethiant gwerth tir, ni ellir gwneud hynny mewn un tymor; byddai hynny yn digwydd ar ôl y tymor presennol.
Bydd adroddiadau'r comisiwn cyfansoddiadol, wrth gwrs, ar gael i bob plaid ar ôl eu cyhoeddi ac rwy'n ddiolchgar i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am gynnig enwebiad i'r comisiwn. Rwy'n siŵr y bydd ei chyfranogiad yn ei drafodaethau yn ychwanegu llawer at yr her angenrheidiol yr ydych chi'n ei ddymuno mewn grŵp o bobl sydd wedi dod ynghyd i edrych ar faterion sydd mor hanfodol bwysig.