Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Mae'n amlwg bod y Torïaid yn pryderu cryn dipyn am y cytundeb cydweithredu, a beth, tybed, yw asesiad y Prif Weinidog o'r rheswm am hynny. Gan ein bod ni i gyd yn cofio, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, y rhodd o £1 biliwn gan y Torïaid—ai oherwydd ein bod ni wedi dangos y ffordd briodol o negodi cytundeb seneddol gyda thryloywder llawn o ran gweithrediad y cytundeb hwn yr ydych chi'n credu eu bod nhw wedi cynhyrfu fel hyn?