3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu — Diweddariad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:29, 7 Rhagfyr 2021

Diolch i Llyr Gruffydd am y sylwadau. Dim ond 30 o bleidleisiau sydd gyda ni yn y Blaid Lafur yma ar lawr y Senedd, ac os ydyn ni eisiau bwrw ymlaen gyda phethau radical ac uchelgeisiol, dydy hwnna ddim yn ddigonol. A dyna pam bod y cytundeb yn bwysig, achos mae'r cytundeb yn canolbwyntio ar y meysydd sydd yn anodd i'w cario ymlaen heb fwy o gefnogaeth.