Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny ac am y ffordd yr ydym eisoes wedi dechrau cydweithio ar yr hyn sy'n ymdrech bwysig iawn. Mae'r holl bwyntiau hynny a wnaethoch chi ar ddechrau eich cyfraniad, o ran pa mor annheg yw'r dreth gyngor ar hyn o bryd a pha mor atchweliadol ydyw, wir yn rhoi cyd-destun y gwaith hwn a pham ei bod mor bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â'r agenda ac yn gwneud cynnydd da yn awr yn nhymor y Senedd hwn.
Rwyf hefyd yn falch iawn bod CLlLC wedi croesawu'r darn hwn o waith a'r ffordd maen nhw, unwaith eto, wedi bod mor barod i ymgysylltu ar yr hyn sy'n mynd i fod yn ddarn mawr a phwysig iawn o waith. Maen nhw’n randdeiliaid hollol allweddol. Rydym ni ar hyn o bryd, fel y soniais i mewn ymateb i Sam Rowlands, yn rhoi'r strwythurau hynny ar waith a fydd yn ein helpu i sicrhau bod gennym fynediad at yr arbenigedd angenrheidiol drwy gydol y darn hwn o waith, ac mae CLlLC yn amlwg yn bartner allweddol yn hynny.
O ran y dreth ar werth tir, cyflwynodd astudiaeth Prifysgol Bangor i ni'r ystyriaeth fanwl gyntaf erioed o dreth gwerth tir lleol yng Nghymru, ac roedd pwyslais gwirioneddol ar ymarferoldeb gweithredu, yn hytrach na syniadau cysyniadol treth ar werth tir. Mae angen gwneud rhagor o waith yn awr. Credaf fod yr hyn a gawsom yn astudiaeth Prifysgol Bangor yn adroddiad dichonoldeb cychwynnol mewn gwirionedd, oherwydd cwmpas y gwaith, ond rwy'n credu, os oes angen inni symud ymlaen ymhellach, y dylem ni edrych ar yr ystyriaethau posibl allweddol yn y dyfodol a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol inni amlinellu'r gofynion ar gyfer cronfa ddata cadastraidd gynhwysfawr. Yn amlwg, rydym ni angen hynny cyn y gallwn ni hyd yn oed ddechrau symud ymlaen ar yr agenda honno. Byddai angen i ni drafod dichonoldeb hynny gyda phartneriaid a fframiau amser, costau, ac ystyried cyfleoedd i gysylltu â'r agenda trethi datganoledig ehangach.
Rydyn ni hefyd angen deall goblygiadau perchnogaeth tir a defnydd tir yng Nghymru, ac a fyddai angen unrhyw newidiadau i'r system gynllunio o ganlyniad, ac i gynnal dadansoddiad ystadegol o dir amaethyddol, a fyddai, wrth gwrs, yn rhan o'n hystyriaethau o ran sut y gallai hyn gynnwys tir amaethyddol neu beidio. Ac yna'n amlwg, byddai angen i ni gynnal dadansoddiad llawnach o'r gofynion deddfwriaethol a datganoli. Mae disodli'r dreth gyngor, ardrethi annomestig, neu'r ddau, gyda threth gwerth tir yn wyriad sylfaenol o'r hyn a fu'n statud canrifoedd ac yn fwyaf tebygol o fod angen sawl Deddf yn y Senedd, ac yn amlwg byddai hynny'n ymarfer cymhleth, hir iawn, ond wrth gwrs, gallai ddod â chyfleoedd i ni bryd hynny o ran moderneiddio ac atgyfnerthu'r gyfraith hefyd.
Byddai'n rhaid i ni edrych ar sut y gwnaethom oresgyn rhai o'r rhwystrau cyfansoddiadol. Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod trethi lleol i ariannu gwariant cynghorau a chyllid llywodraeth leol yn faterion datganoledig, fodd bynnag, mae natur led-ddatganoledig y swyddogaeth brisio yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ofyn am ganiatâd gan Lywodraeth y DU i newid y swyddogaeth brisio mewn unrhyw ffordd arwyddocaol, felly mae'n amlwg bod trafodaethau i'w cael gyda Llywodraeth y DU ar hynny wrth i ni symud ymlaen ar yr agenda bwysig iawn hon.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau roedd Llyr Gruffydd yn eu gwneud ynghylch cael system fwy deinamig, lle mae gennym ailbrisiadau mwy rheolaidd. Rwy'n credu bod rhai cyfleoedd eithaf cyffrous i ni yma, oherwydd yn awr, wrth gwrs, mae gennym Awdurdod Cyllid Cymru ac rydym yn casglu'r dreth trafodiadau tir, felly mae gennym ddarlun rheolaidd, byw, wedi'i ddiweddaru ac amser real o brisiau tai yma yng Nghymru. Felly, rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn fanteisio ar hynny, ac o bosibl creu system lle mae gennym fynediad at ddata nid yn unig at ddibenion trethiant lleol, ond mewn gwirionedd i’n helpu i ddeall y darlun mewn perthynas ag ail gartrefi a'r hyn y gallwn ni ei gasglu o hynny i helpu i ddatblygu polisi, a gallech gynnwys gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni eiddo, er enghraifft. Felly, mae cyfle enfawr i ni yma o ran defnyddio neu greu cronfa ddata newydd a fyddai'n rhan o'r gwaith hwn wrth symud ymlaen, ac mae hynny'n berthnasol i'r gwaith ailbrisio gymaint ag y mae'n i unrhyw waith y gallai fod angen ei ddatblygu yn y dyfodol o ran treth ar werth tir. Ond, yn amlwg, llawer o gyfleoedd cyffrous i ni wneud pethau'n wahanol a gwneud pethau'n well, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Phlaid Cymru ar hynny.