6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:08, 7 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiynau yna, cwestiynau treiddgar. Mae'n mynd i fod, yn y strategaeth hon, fel y gwyddoch chi, rydym yn ymestyn cylch gwaith y strategaeth i gynnwys nid yn unig trais yn y cartref, ond trais ar y stryd, yn y gweithle, ac i edrych yn llawnach o lawer ar drais rhywiol a gwasanaethau trais rhywiol, a sicrhau, pan ddywedwn 'mynediad cyfartal', daw'n ôl at y cwestiwn hwnnw gan eich cyd-Aelod ynghylch comisiynu cynaliadwy a sicrhau bod gennym ddull gweithredu i Gymru gyfan. Felly mae hynny'n ymwneud â safonau a fydd yn cael eu pennu o ran y comisiynu cynaliadwy hwnnw a darparu gwasanaethau, a sicrhau bod gennym gynllunio strategol effeithiol a fframwaith safonau cenedlaethol a all wella a gweithio tuag at y trefniadau ariannu cynaliadwy hynny ar gyfer y sector VAWDASV yng Nghymru. Felly, mae'n rhaid i hynny gynnwys cymunedau gwledig a bydd yn eu cynnwys. Cofiaf y digwyddiad a arweiniwyd gan Joyce Watson, pan edrychom yn benodol ar gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod mewn cymunedau gwledig, ac arweiniwyd hynny gyda Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched. Mae gennym y cyfrifoldeb statudol hwnnw gan fod gan bob awdurdod lleol y cyfrifoldeb statudol hwnnw, ond o ran cyllid cyffredinol, byddwn yn sicrhau y bydd Cymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd gwledig, yn cael ei chynnwys, ac mae'n rhaid cefnogi'r canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, wrth gwrs, i ddiwallu anghenion ledled Cymru.