Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Mae'n drist clywed yr ystadegau yna heddiw o ran trais yn y cartref. Roeddwn i'n ymweld â'r heddlu a oedd yn gyfrifol, y sarjant a oedd yn gyfrifol, am Ddwyfor Meirionnydd yn ddiweddar, ac yntau'n dweud, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae niferoedd yr achosion trais yn y cartref wedi cynyddu yn aruthrol. Beth oedd yn fy nhristáu i yn fwy, hyd yn oed, oedd ymweliad ag Ambiwlans Awyr Cymru ddydd Gwener diwethaf yn Ninas Dinlle, a hwythau'n dweud bod eu galwadau nhw'n bellach wedi cynyddu yn sylweddol, yn mynd allan oherwydd trais yn y cartref. Mae'n dangos lefel yr her sydd o'n blaenau ni, felly diolch yn fawr iawn i chi am eich cyflwyniad.
Dwi jest eisiau canolbwyntio ar un pwynt yn benodol, sef amcan 6 sydd yn eich cyhoeddiad ysgrifenedig. Rydych chi'n sôn am:
'Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr at wasanaethau...a’r rheini’n wasanaethau holistaidd o ansawdd uchel y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy’n seiliedig ar gryfderau' ac sy'n ymatebol ledled Cymru. A wnewch chi, os gwelwch yn dda, ymhelaethu ar beth yn union rydych chi'n ei olygu wrth 'fynediad cyfartal'? Dwi wedi nodi o'r blaen mewn sgwrs efo chi yma yn y Siambr y ffaith mai dim ond un canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol sydd gennym ni yng ngogledd Cymru, ym Mae Colwyn, a bod angen gweld mwy o'r rhain, er enghraifft. Beth yn union mae 'rhoi mynediad cyfartal' i bob dioddefwr yn ei olygu, ac a wnewch chi sicrhau bod cymunedau gwledig ddim yn colli allan? Diolch yn fawr iawn.