Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Mae Ceidwadwyr Cymru yn croesawu cynllun hawliau plant drafft y Llywodraeth 2021, a byddwn ni'n cefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw. Fodd bynnag, mae cafeat i'r pethau hyn bob amser, onid oes? Er ein bod ni'n croesawu'r cynllun hawliau plant, mae gennym ni bryderon gwirioneddol nad yw gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn gwella hawliau plant Cymru.
Mae wedi bod yn 10 mlynedd ers i'r Senedd hon gyflwyno'r Mesur hawliau plant, sy'n
'gosod dyletswydd ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn', eto, mae Gweinidogion Cymru yn parhau i ddiystyru'r ddyletswydd honno pryd bynnag y mae'n gyfleus iddyn nhw.
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb ond yn methu'n llwyr yn eu dyletswydd i gynnal asesiad trylwyr o'r effaith ar hawliau plant. Mae asesiadau o effaith ar hawliau plant yn adnoddau hanfodol i sicrhau bod holl bolisïau'r Llywodraeth yn cadw at gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Drwy fethu â chynnal asesiadau o'r effaith ar hawliau ar wariant cyhoeddus, nid oes gennym ni fawr ddim eglurder ynghylch sut mae penderfyniadau cyllidebol yn effeithio ar blant Cymru. Mae hyn wedi arwain at gondemniad gan y comisiynydd plant a phwyllgor plant y Senedd. Nododd adroddiad comisiynwyr plant y Deyrnas Unedig i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae Llywodraeth Cymru wedi torri llinellau cyllideb lle y byddai asesiad o effaith ar hawliau plant manwl wedi nodi'r effaith ar hawliau plant, er enghraifft, grantiau gwisgoedd ysgol a chyllid i ddysgwyr difreintiedig. Er i'r rhain gael eu gwrthdroi'n ddiweddarach, mae'n peri pryder bod y sefyllfaoedd hyn yn digwydd.'
Pwy a ŵyr beth fyddai wedi digwydd pe na bai'r comisiynydd plant wedi bod yno i sefyll dros blant Cymru. Ni fyddai'r penderfyniadau hyn wedi'u gwrthdroi, mae hynny'n sicr. Nid dim ond y methiant i gynnal asesiadau o effaith ar hawliau plant, sy'n peri pryder; mae llawer ohonom ni'n teimlo nad oes unrhyw werth i asesiadau o effaith ar hawliau plant Llywodraeth Cymru. Yn rhy aml o lawer, caiff asesiadau effaith integredig eu cyfleu fel asesiadau effaith hawliau plant—dull sy'n gwbl annigonol ac nid yw'n adlewyrchu gwir effaith penderfyniadau ar hawliau plant Cymru.