Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

QNR – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer sefydlu academi ddeintyddol newydd Bangor?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cwblhau'r broses gaffael, ac mae'r ymgeisydd llwyddiannus wedi cael gwybod. Mae disgwyl i bractis yr academi ddechrau darparu gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd ym mis Medi y flwyddyn nesaf. Bydd y Bwrdd Iechyd yn ceisio dechrau’r gwasanaethau yn gynt os oes modd. 

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau allyriadau carbon yn Sir Benfro?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol, teuluoedd, cymunedau a busnesau yn Sir Benfro ar amrywiaeth eang o brosiectau i sicrhau allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Mae ein Cynghorwyr Effeithlonrwydd Adnoddau yn Busnes Cymru yn parhau i gefnogi busnesau Sir Benfro i wella eu strategaethau cynaliadwyedd amgylcheddol.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gallu ceisio noddfa a chymorth yng Nghymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

Our Nation of Sanctuary Plan outlines the breadth of work the Welsh Government is undertaking across Wales to ensure sanctuary seekers are welcomed, inequalities they may experience are reduced, access to opportunities increased, and relations between these communities and wider society are improved.  

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu maint y Senedd?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

The Welsh Government, in co-operation with Plaid Cymru, has committed to bringing forward legislation to reform the Senedd, including an increase in the number of Members.