9. Dadl Fer: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:20, 8 Rhagfyr 2021

Ydych chi am i fi ddechrau nawr? Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi wedi cytuno i roi munud i fy nghyfaill Mabon ap Gwynfor.

Pasiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y Siambr hon chwe blynedd yn ôl. Ei nod oedd ymgorffori yn ein cyfraith, yn ein cyrff cyhoeddus, a'n diwylliant, saith nod llesiant a phum egwyddor datblygu cynaliadwy. Roedd y pum egwyddor hyn i fod i gael eu rhoi wrth wraidd pob penderfyniad gan gorff cyhoeddus—pob nod a phob gweithgaredd hefyd. Roedd egwyddorion o feddwl hirdymor, o integreiddio, o atal niwed, o gydweithredu a chyfranogi yno i'n cynorthwyo ni fel cenedl i gyrraedd amcanion cynaliadwy.