Mercher, 8 Rhagfyr 2021
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt...
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn gyntaf gan Samuel Kurtz.
1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd dŵr mewndirol yng Nghymru? OQ57333
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw ar gyfer tyrbinau gwynt yng Nghymru? OQ57313
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Janet Finch-Saunders.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau i fynd i'r afael â chanlyniadau erydiad a achosir gan lifogydd? OQ57318
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trawsnewidiad canol trefi yng Nghanol De Cymru? OQ57335
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? OQ57338
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio canol trefi? OQ57321
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella mannau gwyrdd? OQ57320
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch cefnogi busnesau i ddod yn amgylcheddol gynaliadwy? OQ57310
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod adeiladwyr yn cwblhau ystadau tai i safon foddhaol? OQ57327
Yr eitem nesaf yw cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac yn gyntaf, Sam Rowlands.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r amser ysgol a gaiff ei golli yn ystod pandemig COVID-19 yng Ngogledd Cymru? OQ57329
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ysgolion i gynyddu cyfraddau presenoldeb ymhlith y disgyblion mwyaf difreintiedig yn dilyn cyhoeddi adroddiad diweddaraf Estyn? OQ57323
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y targedau carbon sero net ar gyfer adeiladau ysgolion a cholegau newydd yng Nghymru? OQ57312
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau COVID-19 diweddaraf ar gyfer ysgolion? OQ57324
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae ysgolion ym Mhowys yn elwa o raglen ysgolion yr 21ain ganrif? OQ57319
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg? OQ57328
7. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r Mudiad Meithrin i ddarparu gwasanaethau Ti a Fi? OQ57307
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu ysgolion gwledig? OQ57317
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r cwricwlwm newydd yng Nghymru? OQ57316
Yr eitem nesaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Galwaf ar Jane Dodds.
1. Pa adnoddau a chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu darparu i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill i nodi pryderon posibl ynghylch diogelu plant, yn dilyn marwolaeth Arthur...
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Dim ond un datganiad sydd y prynhawn yma, a galwaf ar Mabon ap Gwynfor.
Eitem 5 yw'r eitem nesaf. Yr eitem yma yw'r ddadl ar y ddeiseb ar ddeddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth. Dwi'n galw ar...
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio am heddiw. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau iechyd meddwl, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw...
Y ddadl fer fydd nawr nesaf. Fe wnaf i adael rhyw gymaint o amser i basio i Aelodau fedru gadael y cyfarfod os ydyn nhw'n dymuno, ac i wneud hynny'n dawel. Mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno...
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol i asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer unedau dofednod dwys?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dewisiadau sydd ar gael i rieni o ran lleoliadau ar gyfer addysg eu plant?
Pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i gyflwyno mecanweithiau rheoli i reoleiddio'r tir yng Nghymru y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwrthbwyso carbon?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia