Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Mae buddsoddiad, sbardunau deddfwriaethol a fframwaith rheoleiddio cadarn wedi arwain at 42 y cant o'n dyfroedd mewndirol yn cyflawni statws ecolegol da. Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd dŵr ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae angen inni ddefnyddio dull dalgylch integredig, gan ganolbwyntio ar gydweithredu amlsectoraidd ac atebion ar sail natur.