Tyrbinau Gwynt

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 1:36, 8 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, nodais yn fy ymateb cychwynnol i chi fod gennym 10 datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol ar y gweill, sy'n newyddion da iawn, o ystyried pa mor hir y mae 'Cymru'r Dyfodol' wedi bod ar waith. Felly, rwy'n deall y pwynt a wnewch, ond nid yw'n cael ei adlewyrchu yn nifer y ceisiadau sydd gennym yn y system ar hyn o bryd. Hoffwn nodi hefyd nad yr ardaloedd a rag-aseswyd yw'r unig le o reidrwydd y gallwch adeiladu fferm wynt, neu unrhyw fath arall o ynni adnewyddadwy yng Nghymru; mae rhagdybiaethau cynllunio ychydig yn wahanol yn yr ardaloedd hynny, dyna'i gyd. Felly, nid oes unrhyw beth i atal unrhyw un rhag cyflwyno ateb mewn man arall yng Nghymru, ond wrth gwrs, bydd yn rhaid iddynt fynd drwy'r broses.