Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Wel, credaf ein bod eisoes yn gwneud hynny. Rydym wedi lansio ein cynllun gweithredu ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn ddiweddar, ac ar hyn o bryd mae gennym raglen, y flwyddyn ariannol hon, o fuddsoddiad mewn mannau gwefru yng nghanol trefi. Ac ymhell o fod ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr, fel yr awgrymwch, o ran cyfran y ceir trydan sydd gennym yng Nghymru, mae gennym gyfran debyg o fannau gwefru ar gael ar gyfer y ceir sydd gennym. Er hynny, yn amlwg, wrth i nifer y ceir trydan gynyddu, fel rydym i gyd yn dymuno ei weld, mae angen inni gadw i fyny â hynny a chynyddu'r buddsoddiad. Rwy'n cytuno â'r pwynt y mae'n ei wneud, ond rwy'n credu ein bod yn gwneud cynnydd rhesymol.