Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor canol ein trefi a'n dinasoedd drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a'u gwneud yn lleoedd deniadol i fod ynddynt. Mae canol trefi a dinasoedd ar draws rhanbarth Canol De Cymru wedi elwa o £13.8 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi ers mis Ionawr 2020.