Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Rwy'n sicr yn cytuno â'r her—ac roeddwn yn meddwl bod yr Aelod wedi ymdrin yn wych â'r heclo y tu ôl iddi ac mae'n haeddu pwyntiau am hynny. [Chwerthin.]
Yn sicr, credaf fod enghreifftiau mewn prosiectau adfywio o dai bioffilig, yn sicr mae yna un yn Abertawe sy'n edrych yn addawol iawn, ac rwy'n sicr yn credu bod gan y llysgenhadon hinsawdd ifanc y mae wedi cyfarfod â hwy ddadl gref iawn, a byddwn yn awyddus i drafod gyda hwy a chyda hi beth arall y gellir ei wneud. Rydym wedi sefydlu tasglu gweinidogol ar gyfer canol trefi ac rwyf wedi gofyn i hwnnw fwrw ymlaen â'r adroddiad gan yr Athro Karel Williams a chan Archwilio Cymru i adfywio canol trefi, a byddwn yn hapus iawn i ofyn iddynt edrych yn benodol ar y pwyntiau y mae'n eu gwneud a sut y gallant blethu'r rheini i mewn i'w gwaith a'u hargymhellion.