Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Mae nifer o gymunedau ar lannau Llŷn wedi gweld tirlithriadau sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf. Y mwyaf amlwg oedd y tirlithriad mawr yn Nefyn yn ôl ym mis Ebrill, ond mae eraill wedi bod yno ac ar draws yr arfordir ers hynny. Yn wir, mae'r British Geological Survey wedi clustnodi Nefyn fel parth perygl tirlithriad. Mae'r tirlithriadau yma yn bygwth bywydau ac eiddo, ac yn achos poen meddwl sylweddol i drigolion cymunedau glan morol. Pa sicrwydd felly fedrwch chi ei roi i drigolion Nefyn a'r glannau yno sydd o dan fygythiad o dirlithriadau fod y Llywodraeth a'r cyrff perthnasol yn ymgymryd â gwaith angenrheidiol i ddiogelu eiddo a bywyd yn y mannau o dan fygythiad fel Nefyn a chymunedau eraill Llŷn? Diolch.