Ystadau Tai

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 2:20, 8 Rhagfyr 2021

Diolch, Weinidog. Mae wedi dod i'r amlwg i mi nad oes mesurau digonol mewn lle i fynd i'r afael â'r broblem enfawr sy'n bodoli wrth i rai adeiladwyr fethu â chwblhau ystadau tai i safon foddhaol. Mae nifer o achosion ble mae rhywun yn prynu tŷ dan yr argraff gamarweiniol y bydd isadeiledd fel lonydd, palmentydd, goleuadau stryd ac yn y blaen yn cael eu cwblhau unwaith y bydd yr holl dai yn yr ystad yn cael eu gwerthu cyn cael eu gadael ar ôl i fyw mewn amodau byw peryglus am flynyddoedd os nad am byth. Mae awdurdodau lleol yn dweud nad oes ganddyn nhw'r grymoedd i weithredu ar hyn, tra bod Llywodraeth Cymru yn honni mai mater i'r awdurdodau cynllunio lleol ydyw, ac mae'r anghyfiawnder hwn hyd yn oed yn waeth mewn achosion ble mae rheolaeth dros adeiladu wedi ei allanoli i gwmnïau preifat. Yn yr achosion hyn, nid yw'r awdurdodau cynllunio lleol yn gwneud unrhyw waith ymchwilio na gorfodi pan fo gwaith diffygiol clir. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad i mewn i hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn gorfod byw mewn amodau anniogel? Diolch.