Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig arolwg o fentrau bach a chanolig yng Nghymru ar eu cynlluniau i wneud eu hunain yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Dywedodd perchnogion busnesau bach mai'r prif beth sy'n rhwystro busnesau rhag gwneud eu gweithrediadau'n fwy cynaliadwy oedd diffyg amser ac adnoddau i weithredu strategaethau amgylcheddol. Tynnodd penaethiaid cwmnïau sylw hefyd at eu diffyg arbenigedd eu hunain ar ble i ddechrau gyda chynlluniau cynaliadwyedd, tra'n adrodd am heriau wrth gael y gefnogaeth ariannol gywir o ffynonellau traddodiadol. Ddirprwy Weinidog, yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn, a wnewch chi ymrwymo i drafod, gyda Gweinidog yr Economi, ffyrdd o ddarparu'r arweiniad ymarferol a'r cyllid y mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru eu hangen i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn? Diolch.