Targedau Carbon Sero Net

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:53, 8 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi mandadu carbon sero net o dan faner newydd 'cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu' ar gyfer rhaglen fuddsoddi ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf. Bydd angen i bob prosiect adeiladu o'r newydd, adnewyddu mawr ac ymestyn ddangos bod carbon sero net yn cael ei gyflawni yn y gwaith ynghyd â gostyngiad o 20 y cant yn y carbon a gaiff ei allyrru wrth gynhyrchu deunyddiau adeiladu.