Targedau Carbon Sero Net

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:55, 8 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, gan y byddwch ym Mhen-y-bont ar Ogwr, byddwn yn argymell eich bod hefyd yn gweld ysgol yn fy ward, Pen-y-fai. Weinidog, mae gosod targedau ar gyfer ein hadeiladau ysgol a cholegau newydd yn gymharol syml, ac nid yw sicrhau eu bod yn cyfrannu at ein targed carbon sero net yn rhywbeth a ddylai achosi llawer o broblemau. Yr her fwy yw bod llawer o'n hadeiladau ysgol wedi'u codi ar ddiwedd oes Fictoria a dechrau'r cyfnod Edwardaidd—adeiladau brics coch trawiadol, solet sy'n debygol o fod yn fwy problemus wrth inni newid o wresogi nwy. Pa asesiad y mae wedi'i wneud o'r gyllideb y bydd angen ei dyrannu ar gyfer yr ysgolion hyn i gyflawni ein rhwymedigaeth? Diolch.