Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb? Os ydym am gyflawni'r bwriad o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, sicrhau bod mwy o blant yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ffordd orau a hawsaf o wneud hynny. A yw'r Gweinidog yn derbyn mai Ti a Fi yw'r cam cyntaf i ddysgu Cymraeg i lawer o blant, yn enwedig y rheini sy'n dod o gefndiroedd Saesneg eu hiaith? Pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i Ti a Fi a Mudiad Meithrin? A chan fod pawb arall yn rhoi gwahoddiadau, a gaf fi eich gwahodd i ymweld â Ti a Fi a Mudiad Meithrin yn Nwyrain Abertawe?