Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Mae dadansoddiad cyfrifiad ysgolion blynyddol lefel dysgwyr ynghyd â chynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn rhoi darlun cynhwysfawr i ni o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg ar draws Cymru, a gyda'i gilydd yn cyfrannu at benderfyniadau polisi a chyllido sy'n ein symud yn agosach at ein targed 'Cymraeg 2050'.