Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:49, 8 Rhagfyr 2021

Iawn, diolch yn fawr iawn. Dros yr haf, bu'r pwyllgor diwylliant presennol, sy'n gyfrifol am y Gymraeg, ymhlith pethau eraill, yn ymgynghori ynghylch beth ddylai ei flaenoriaethau fod ar gyfer y chweched Senedd yma. Un o'r blaenoriaethau oedd cydnabod bod plant ysgol yn ystod y pandemig wedi wynebu cyfnodau estynedig i ffwrdd o'r ysgol, fel rôn i'n sôn amdano yn y cwestiwn blaenorol, ac, oherwydd hynny, mae eu haddysg nhw wedi dioddef. Prin, oherwydd y broblem o safbwynt y Gymraeg yn benodol, y bu'r rhyngweithio rhwng plant a'u rhieni o safbwynt defnydd y Gymraeg, yn arbennig plant, wrth gwrs, sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg. Felly, yn dilyn galwadau am ragor o fuddsoddiad yn y ddarpariaeth drochi hwyr yn y Gymraeg, cafwyd cyhoeddiad gan y Llywodraeth ynghylch cynnig o £2.2 miliwn i ehangu'r ddarpariaeth, ac fe gafodd hynny groeso mawr, gennym ni yn sicr yma ym Mhlaid Cymru. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut mae'r cyllid hwn wedi cael ei ddefnyddio a pha effaith mae'r cyllid wedi'i chael ar adfer addysg, yn bennaf addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, wrth feddwl am y dyfodol, pa gynlluniau pellach sydd gan y Gweinidog i gefnogi'r Gymraeg trwy gynlluniau adfer addysg?