Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Nid wyf yn derbyn rhagosodiad y cwestiwn fod Cymru wedi cael yr arian hwn gan Lywodraeth y DU. Mae trethdalwyr yng Nghymru wedi cyfrannu at yr adnodd hwnnw hefyd, ac mae gennym berffaith hawl i'n cyfran o gronfa gyffredinol y DU. Ar y pwynt a wnaeth am gronfeydd ysgolion bach a gwledig yn benodol, fe fydd yn gwybod, wrth gwrs, mai awdurdodau lleol sy'n dyrannu cyllid ysgolion unigol yn y pen draw, ond rwy'n ei sicrhau fy mod yn gwneud popeth a allaf, fel rwyf wedi'i wneud bob amser, i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn cael yr holl arian sydd ei angen arnynt i barhau i ddarparu'r addysg ragorol y maent yn ei darparu i'n dysgwyr.