Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch yn fawr iawn i chi, Dirprwy Lywydd. Dwi am dalu teyrnged y prynhawn yma, os gwelwch yn dda, yn arbennig iawn i holl staff meddygfeydd Dwyfor Meirionnydd a thu hwnt am eu gwaith diflino yn rhoi'r brechlyn ym mraich cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru. Y staff meddygol ymroddedig yma sydd yn cadw ni oll yn ddiogel, ac mae'n dyled ni yn fawr iddyn nhw.
Dwi am longyfarch yn benodol un o'r meddygfeydd lleol yn Nwyfor Meirionnydd; yn benodol, felly, camp arwrol a wnaed dros y penwythnos diwethaf yn Nhŷ Doctor Nefyn. Tŷ Doctor oedd y feddygfa gyntaf i frechu Pfizer, a oedd yn golygu bod pobl mewn cymunedau gwledig yn medru cael y pigiad arbennig yma. A llwyddodd meddygfa Tŷ Doctor i ddosbarthu bron i 4,000 o frechlynnau dros ddeuddydd y penwythnos diwethaf, sy’n golygu bod nhw bellach wedi brechu hyd at 20,000 o bobl ers dechrau’r flwyddyn. Mae'r feddygfa yma ym Mhen Llŷn wedi arwain y ffordd wrth frechu pobl leol ers y dechrau cyntaf un—o’r meddygon, y nyrsys, y staff a’r byddin o wirfoddolwyr—pob un yn ymgymryd yn ei rôl yn llawen bob tro.
Yn ôl Dr Eilir Hughes, daeth bobl o bob cwrdd o ogledd Cymru i gael eu brechu yn Nhŷ Doctor, Nefyn. Roedd rhai yn dod am y tro cyntaf, rhai yn dod am ail ddos, a sawl un yno i gael yr hwblyn. Ond yr hyn sy’n galonogol ydy bod llawer iawn o’r rhai ddaeth i’r feddygfa dros y penwythnos yn bobl ifanc.
Y brechlyn ydy’r arf orau sydd gennym ni i fedru mynd i’r afael â’r haint erchyll yma sydd wedi lladd cynifer o’n hanwyliaid. Diolch o galon, felly, i holl feddygon a staff meddygfeydd Dwyfor Meirionnydd a Chymru gyfan am eu hymdrechion heb eu hail wrth ddosbarthu’r brechlyn yma yn effeithiol yn ein cymunedau a’n cadw ni oll yn ddiogel.