Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch, Lywydd. Ac fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yn y Senedd, rwy'n falch iawn o weld bod y ddadl hon wedi'i chyflwyno gan y Pwyllgor Deisebau. A chyn i mi fynd ymhellach, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant yn y ddadl hon fel aelod anrhydeddus o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru ac yn wir fel aelod o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog hefyd. A hoffwn dalu teyrnged i waith anhygoel y prif ddeisebydd, Dr Craig Shuttleworth, am drefnu'r ddeiseb, a'r gwaith anhygoel y mae'n ei wneud, o ddydd i ddydd, yn arwain ymdrechion cadwraeth gwiwerod coch ledled y wlad. Nid ef yw'r unig un, wrth gwrs—mae'r Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Sŵ Mynydd Cymru a byddin gyfan o bobl eraill, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr, yn rhoi eu hamser, eu hymdrech a'u hadnoddau i frwydro dros y 'super furry animals' hyn.
Ers cael fy mhenodi'n hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yn ôl yn 2016, mae wedi bod yn wefr cael dysgu mwy am y rhywogaeth unigryw ac eiconig hon ac ymweld â llawer o'r prosiectau ledled Cymru a dysgu am yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i hybu ffyniant poblogaeth y wiwer goch a'i adfywio. Ers dros 10,000 o flynyddoedd, poblogaeth y wiwer goch oedd y boblogaeth fwyaf o wiwerod yma yng Nghymru. Ac nid yn unig hynny, roedd yn poblogi'r mwyafrif llethol o Ynysoedd Prydain. Ond gwyddom o'r hyn sydd eisoes wedi'i rannu heddiw fod y boblogaeth honno wedi lleihau'n sylweddol, ac mor ddiweddar â'r 1990au dim ond ychydig gannoedd o wiwerod coch oedd wedi'u gwasgaru ledled Cymru mewn pocedi poblogaeth bach, a oedd mewn perygl. Ond dyna'r adeg, cyn troad y mileniwm, y dechreuodd yr ymdrechion cadwraeth arwrol i adfywio'r rhywogaeth. A diolch i'r ymdrechion hyn, rwy'n falch o ddweud bod gan goedwig Clocaenog yn fy etholaeth i boblogaeth fach gynaliadwy, ond cynyddol o wiwerod coch. Yng nghanolbarth Cymru, rhyddhaodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent belaod, ysglyfaethwr wiwerod llwyd, ac mae'r prosiect hwnnw, hyd yma, wedi llwyddo i roi hwb i niferoedd y boblogaeth yno.
Ond yn fy marn i, o'r holl ymdrechion cadwraethol ar gyfer unrhyw anifail yng Nghymru, ar ynys Môn y gwelwyd y fuddugoliaeth fwyaf. Oherwydd, diolch i'w statws fel ynys, cafodd cynllun uchelgeisiol i gael gwared ar wiwerod llwyd ei greu, ac erbyn 2015, cyhoeddwyd bod Ynys Môn yn barth heb wiwerod llwyd. Ond mae'r holl ymdrechion hyn wedi'u tanseilio, a chawsant eu tanseilio oherwydd deddfwriaeth goedwigaeth hen ffasiwn, nad yw'n rhoi unrhyw ystyriaeth i boblogaethau bywyd gwyllt sydd mewn perygl. Sut y gall fod, er ei bod yn anghyfreithlon lladd neu anafu gwiwer goch neu darfu ar wiwer goch yn ei nyth—sut y gall fod nad yw coedwig sy'n eu cynnwys wedi'i gwarchod ac y gellir ei thorri? Ac eto, yn anffodus, dyna'r sefyllfa bresennol, o safbwynt y gyfraith, yma yng Nghymru. Oherwydd er bod angen trwydded gwympo coed i gynaeafu coed neu gwympo coed mewn coetir preifat yng Nghymru, mae'n sgandal na ellir gwrthod trwyddedau o'r fath os ydynt yn arwain at golli cynefin a dirywiad ym mhoblogaeth y wiwer goch. Ac wrth gwrs, nid oes angen trwydded ar goedwigoedd sy'n eiddo i'r Llywodraeth, ond cânt eu rheoli o dan gynlluniau 10 mlynedd. Yn anffodus, nid oes unrhyw rwymedigaeth o gwbl i ddiweddaru neu adnewyddu'r cynlluniau hynny i ystyried poblogaeth gwiwerod ar sail flynyddol a nodi lle maent yn nythu o fewn y coedwigoedd hynny. Ac o ganlyniad i hynny, rydym yn awr yn wynebu her anhygoel o weld coed mewn rhannau o Gymru yn cael eu torri, neu ceir bwriad i'w torri, a allai arwain at wrthdroi'r ymdrechion cadwraethol enfawr a welsom.
A gadewch i mi roi enghraifft i chi o sut y mae'r trefniadau presennol yn methu yn hynny o beth: coedwig Pentraeth ar Ynys Môn. A gwn y bydd Rhun ap Iorwerth yn gyfarwydd â'r her hon. Mae'n gadarnle i'r wiwer goch—un o'r ychydig gadarnleoedd yng Nghymru. Ac eto, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi caniatâd i waith cwympo coed a fydd yn seiliedig ar ddata hen ffasiwn ar boblogaeth gwiwerod yn lleol, sydd dros 10 mlwydd oed, ac yn waeth byth, bydd yn caniatáu i'r gwaith cwympo coed ddigwydd yn ystod tymor bridio'r wiwer goch. Felly, er bod cenhedlaeth newydd o'r rhywogaethau hyn sydd mewn perygl yn setlo yn eu nythod, bydd y coed, sy'n dal y nythod hynny, yn cael eu torri. Ac nid ardal fechan o goetir sy'n cael ei chwalu; mae'n 17 erw—gwerth 6,500 tunnell bren o gynefin o'r radd flaenaf i wiwerod coch sy'n mynd i gael ei ddinistrio. Ac mae'n rhaid inni gofio bod hyn yn digwydd ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn feirniadol o ddatgoedwigo byd-eang ac yn annog pob cartref yng Nghymru i blannu coeden. Felly, ni allwn ganiatáu i'r sefyllfa hon barhau. Mae'n rhaid inni weithredu yn awr os ydym eisiau gweld niferoedd y rhywogaeth hon yn parhau i wella.
Oes, mae angen inni fynd i'r afael â diffygion Deddf Coedwigaeth 1967. Mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi'i wneud yn yr Alban, felly mae gennym dempled y gallwn ei ddefnyddio a'i gymhwyso yma yng Nghymru. Mae arnom angen amserlen glir ar gyfer cyflawni'r gwaith hwnnw. Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau'r gwaith o gynllunio ar gyfer newid y ddeddfwriaeth honno. Ond mae angen gwneud gwaith hefyd i sicrhau bod y cynlluniau 10 mlynedd hyn yn cael eu diweddaru'n amlach o lawer fel y gallwn ddiogelu poblogaethau bywyd gwyllt—nid y wiwer goch yn unig, ond rhywogaethau bywyd gwyllt pwysig eraill hefyd—mewn coedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth ac sy'n cael eu cynnal gan y wladwriaeth ledled y wlad.
Felly, ar ran yr anifail bach, y 'super furry animal' hwn, rwyf am annog pawb i gefnogi'r ddeiseb sydd wedi galw am wneud y newidiadau hyn heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pellach.