Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Craig Shuttleworth ym mis Mehefin ac fe gafodd 10,000 o lofnodion cyn diwedd mis Gorffennaf. Lywydd, mae hynny'n dweud wrthyf fod llawer o bobl yng Nghymru, ac ar draws y byd, yn hoff iawn o wiwerod coch. Ac er nad yw'n ganolbwynt i'r ddadl heddiw, hoffwn sôn am ddeiseb P-06-1225, 'Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir'. Mae'r ddeiseb hon yn codi materion ehangach ynghylch sut y gallwn ddiogelu cynefinoedd coetir ar gyfer yr holl greaduriaid sy'n byw yno.
Roedd y wiwer goch yn gyffredin ledled y DU ar un adeg, ond maent wedi diflannu o sawl ardal. Fodd bynnag, gallwch eu gweld o hyd mewn tair prif ardal yng Nghymru: ar Ynys Môn, yng Nghoedwig Clocaenog yng ngogledd Cymru, ac yng Nghlywedog yng nghanolbarth Cymru. Yn ôl yr Ymddiriedolaethau Natur, mewn tua 150 mlynedd mae niferoedd gwiwerod coch wedi gostwng o tua 3.5 miliwn i 140,000 yn y DU. Mae'r prif fygythiad i'r rhywogaeth wedi deillio o gyflwyno'r wiwer lwyd, a ddygwyd drosodd o Ogledd America yn y 1870au. Maent yn wiwerod mwy o faint, sy'n bridio'n gyflymach, ac maent yn cystadlu am ffynonellau bwyd, gan wneud bywyd yn anos i'r wiwer goch. Gallant hefyd gario feirws brech y wiwer, a elwir hefyd yn parapox, nad yw'n gwneud niwed i wiwerod llwyd, ond sy'n angheuol i wiwerod coch. Lywydd, mae cathod a chŵn domestig, ffyrdd, colli a darnio cynefin hefyd yn fygythiad i'r wiwer goch. Yn 2020, rhyddhaodd Cymdeithas y Mamaliaid restr goch swyddogol o famaliaid Prydain, a dynnai sylw at y rhywogaethau sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Mae'r wiwer goch yn cael ei dosbarthu fel rhywogaeth 'mewn perygl' ac mae'n un o'r 19 rhywogaeth yr ystyrir eu bod mewn perygl o ddiflannu ym Mhrydain. Ar lefel ryngwladol, mae ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o rywogaethau dan fygythiad.
Mae gwiwerod coch yn rhywogaeth â blaenoriaeth o dan fframwaith bioamrywiaeth ôl-2010 y DU. Fe'u diogelir o dan Atodlenni 5 a 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, fel y'i diwygiwyd. O dan y Ddeddf, mae'n drosedd lladd, anafu neu gymryd gwiwerod coch, neu ddifrodi, dinistrio neu rwystro mynediad at nyth neu unrhyw strwythur neu le arall y mae gwiwerod coch yn ei ddefnyddio ar gyfer cysgod neu ddiogelwch. Mae hefyd yn drosedd tarfu ar wiwer goch pan fydd yn defnyddio strwythur neu le ar gyfer diogelwch. Nid yw'r amddiffyniad hwn yn berthnasol i fannau lle mae gwiwerod coch ond yn bwyta'n unig. Gellir trwyddedu gweithgareddau a all effeithio ar wiwerod coch am resymau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn galw ar y Llywodraeth i fynd gam ymhellach na'r amddiffyniad sydd eisoes yn bodoli. Mae'n gofyn i'r Senedd hon wneud mwy i ddiogelu gwiwerod coch. Yn benodol, mae'n gofyn am gynnwys colli cynefin wrth ystyried trwyddedau cwympo coed, ac y dylai coedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth, nad oes angen trwydded arnynt, orfod asesu effaith gronnol cwympo coed ar boblogaeth y wiwer goch yn flynyddol. Gwyddom fod y Llywodraeth hon yn rhoi newid hinsawdd a natur wrth wraidd ei phenderfyniadau. Yn gynharach eleni, ym mis Mehefin 2021, fe wnaeth y Senedd hon ddatgan argyfwng natur. Felly, mae'r cwestiwn heddiw yn ymwneud â'r argyfwng natur hwnnw: sut y gallwn ddiogelu'r poblogaethau sydd gennym o wiwerod coch? Ond yn fwy na hynny hyd yn oed, sut y gallwn wrthdroi'r dirywiad hanesyddol?
Lywydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymateb y Gweinidog y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniad wiwer goch y Senedd ei hun—ein Darren Millar sionc fel y wiwer. Diolch yn fawr.