5. Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:57, 8 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf finnau'n ddiolchgar iawn i'r deisebydd a hefyd i Jack Sargeant, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, am gyflwyno'r mater pwysig hwn, sydd, fel y dywedodd ef a llawer o rai eraill, nid yn unig yn diogelu gwiwerod coch, ond sydd hefyd yn diogelu mathau eraill o fywyd gwyllt yn ystod gwaith cwympo coed. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn rhoi camau ar waith i gynnal a gwella rhywogaethau pwysig iawn, ac nid yw hwn ond yn un o nifer o gamau gweithredu a nodwyd yn 'Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru 2020-21' i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru. 

Rwy'n ymwybodol iawn o gyfyngiadau'r Ddeddf Goedwigaeth a natur yr amodau y gall Cyfoeth Naturiol Cymru eu cymhwyso o dan drwydded gwympo coed. Gall y cyfyngiadau hyn, fel y nodwyd gan lawer o'r Aelodau, arwain at ddatgysylltiad rhwng y Ddeddf Goedwigaeth a deddfwriaeth amgylcheddol arall, gan arwain at fylchau o ran diogelu bywyd gwyllt. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn drwy lythyrau cynghori neu gynlluniau rheoli coedwigaeth hirdymor ar gyfer perchnogion tir, yn sicr nid yw'r rhain yn mynd i'r afael â'r mater yn llawn, fel y nododd nifer o'r Aelodau.

Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gynnwys darpariaethau yn y Bil amaethyddiaeth sy'n diwygio'r Ddeddf Goedwigaeth er mwyn caniatáu ar gyfer ychwanegu amodau at drwyddedau cwympo coed. Byddwn hefyd yn cynnwys darpariaethau i ddiwygio, atal neu ddirymu trwyddedau cwympo coed ar ôl iddynt gael eu rhoi. Bydd y diwygiadau hyn yn helpu i ddarparu gwell amddiffyniad i fywyd gwyllt, er enghraifft, mewn perthynas â'r eithriad o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac yn darparu gwell cydgysylltiad rhwng rheoliadau coedwigaeth a rheoliadau amgylcheddol eraill. Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol i ddiwygio'r Ddeddf Goedwigaeth yn cael ei chyflwyno'n fuan iawn.

Mae 'Safon Coedwigaeth y DU' yn nodi y dylid

'rheoli coetiroedd mewn ffordd sy'n gwarchod neu'n gwella bioamrywiaeth' ac y dylid adlewyrchu hynny mewn cynlluniau rheoli coedwigoedd. Mae gan bob rhan o ystâd goetir Llywodraeth Cymru gynllun adnoddau coedwig 10 mlynedd, sy'n ofynnol ar gyfer ardystio coedwigoedd, ac mae cynlluniau'n cynnwys manylion unrhyw rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd y gallai gweithrediadau rheoli effeithio arnynt, a chynhelir arolygon safle gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddatblygu'r cynlluniau, ac mae mesurau i liniaru effeithiau wedi'u cynnwys, er enghraifft, drwy gadw ardaloedd o gynefin. Rhoddir ystyriaeth hefyd i anghenion cynefin rhywogaethau ar lefel y dirwedd. Mae'r broses honno'n cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid allanol, megis y grwpiau gwiwerod coch. Mae cynlluniau hefyd yn cael eu rhoi ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru i alluogi sylwadau pellach—