Part of the debate – Senedd Cymru ar 8 Rhagfyr 2021.
Cynnig NDM7861 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi canfyddiadau adroddiad Holden ar fethiannau yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd.
2. Yn gresynu at:
a) y ffaith ei bod wedi cymryd bron i wyth mlynedd a chyfarwyddyd gan y comisiynydd gwybodaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi'r adroddiad;
b) yr oedi rhwng cyhoeddi'r adroddiad a gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig;
c) methiant y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad;
d) diffyg atebolrwydd am berfformiad gwael gwasanaethau iechyd meddwl ledled Gogledd Cymru;
e) effaith ddinistriol y methiannau hyn ar staff, cleifion a'u hanwyliaid.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymddiheuro i staff, cleifion a theuluoedd y rhai yr effeithiodd y methiannau yn uned Hergest yn andwyol arnynt;
b) ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau fel mater o drefn ac mewn modd amserol yn y dyfodol;
c) cyflawni gwelliannau radical yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru;
d) cynnal adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru gyda chleifion, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill;
e) cyhoeddi gwybodaeth ystyrlon am berfformiad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, gan gynnwys amseroedd aros ar gyfer asesiadau iechyd meddwl a thriniaeth, fel therapïau siarad;
f) sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn 24 awr ar gyfer pobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl;
g) gweithio ar sail drawsbleidiol i gyflawni Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru.