Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Mae rhai'n awgrymu y bu rhyw fath o oedi rhwng cynhyrchu'r adroddiad a rhoi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Fodd bynnag, fel y gwyddom, roedd adroddiad Holden yn un o nifer o adolygiadau annibynnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd mewn ymateb i bryderon ynghylch ansawdd gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, a arweiniodd at ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015. Ni fu unrhyw oedi. Mewn gwirionedd, gofynnodd y Gweinidog iechyd ar y pryd i'r grŵp teirochrog o swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru adolygu statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Mehefin 2015. Ar ôl cael gwybod nad oedd y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd digonol wrth fynd i'r afael â phryderon hirsefydlog ynghylch llywodraethiant, arweinyddiaeth a chynnydd, penderfynodd roi'r bwrdd mewn mesurau arbennig ar unwaith, a chyhoeddwyd hynny yn y Siambr hon lai na 24 awr yn ddiweddarach.
Ers adeg adroddiad Holden, mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd. Canfu adborth gan Archwilio Cymru, AGIC, a swyddogion Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyfarfod bord gron diweddaraf ar iechyd meddwl, a gynhaliwyd mor ddiweddar â 22 Medi, y bu gwelliant sylweddol yn nidwylledd a thryloywder y bwrdd iechyd ynglŷn â'i wasanaethau iechyd meddwl. Penodwyd prif weithredwr newydd i lywio'r bwrdd iechyd ar ei daith wella. Cryfhawyd trefniadau llywodraethu i ddarparu mwy o oruchwyliaeth a chraffu ar wasanaethau iechyd meddwl ar lefel y bwrdd, ynghyd â ffyrdd systematig o nodi a rhoi gwybod am faterion wrth iddynt godi. Mae llawer mwy o sefydlogrwydd ar y lefel reoli yn y gwasanaethau iechyd meddwl, a mwy o hyder yn y gwasanaeth i ddarparu.
Er y gwyddom, fel gyda nifer o fyrddau iechyd ledled Cymru ar hyn o bryd, fod rhai materion perfformiad wedi'u gwaethygu gan COVID, mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a gwasanaethau oedolion bwrdd Betsi Cadwaladr wedi'u halinio'n well i ddarparu gwasanaeth mwy integredig. Bu gwelliannau mawr hefyd yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol a'r trydydd sector i gefnogi'r rhan o'r agenda iechyd meddwl sy'n ymwneud ag atal ac ymyrraeth gynnar. Mae'n amlwg, o fy nghyfarfodydd fy hun gyda'r bwrdd iechyd, a chyfarfodydd fy swyddogion, ei fod yn defnyddio goruchwyliaeth a her sylweddol Llywodraeth Cymru mewn ffordd gadarnhaol, ac yn unol â'i ddyhead i fod yn sefydliad sy'n dysgu.
Mae'r fframwaith ymyrraeth wedi'i thargedu yn cael ei ddefnyddio gan y bwrdd iechyd, ac mae pedwar matrics aeddfedrwydd wedi'u datblygu gyda staff i ysgogi gwelliannau. Y bwrdd iechyd sy'n berchen ar y matricsau, a chawsant eu datblygu gyda'r staff ar lawr gwlad sydd wedi dangos gwir ddealltwriaeth o'r anawsterau sy'n eu hwynebu a'r heriau sydd o'u blaenau. Elfen allweddol o'r matricsau yw eu bod yn eglur ynglŷn â'r angen i'r bwrdd iechyd ddangos ei fod yn ymateb i argymhellion adolygiadau allanol, ac yn gweithredu ffyrdd newydd o weithio mewn ymateb i'r argymhellion hyn. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â'r bwrdd iechyd i adolygu cynnydd yn erbyn y matricsau, ac rwy'n croesawu'r tryloywder a'r didwylledd a ddangoswyd gan y bwrdd iechyd fel rhan o'r broses hon. Rwyf wedi cael cyfle fy hun i drafod y matrics iechyd meddwl yn uniongyrchol gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr, yn ogystal â'r unigolyn sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl. Yn ei hunanasesiad ei hun, mae'r bwrdd wedi cydnabod bod llawer o waith i'w wneud. Er fy mod yn cydnabod bod y sgoriau sylfaenol yn isel, maent yn adlewyrchu arfarniad gonest o sefyllfa'r bwrdd iechyd. Mae'n bwysig nodi nad yw'r sgoriau hyn yn adlewyrchu'r maes cyfan, dim ond y meysydd sy'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu, ac maent yn gosod llinell sylfaen y gallwn olrhain cynnydd yn ei herbyn drwy'r matricsau.
Bydd adfer a thrawsnewid yn cymryd amser, ond rydym wedi dweud wrth y bwrdd iechyd yn gyson ac yn glir fod gallu dangos tystiolaeth o welliannau yn y gwasanaeth yn allweddol i wneud cynnydd ar draws y matricsau gyda'r bwriad o isgyfeirio ymhellach. Nid wyf yn celu rhag y ffaith bod llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn cyrraedd safon y mae pobl yn ei disgwyl ac yn ei haeddu. O fy nhrafodaethau gyda chadeirydd a phrif weithredwr bwrdd Betsi Cadwaladr, mae hyn yn rhywbeth sy'n amlwg iawn i staff y bwrdd iechyd. Fodd bynnag, mae angen inni gydnabod bod cynnydd wedi'i wneud ac yn parhau i gael ei wneud. Ceir ymdeimlad cynyddol o hyder, fod y blociau adeiladu yn eu lle i alluogi'r bwrdd iechyd i symud ymlaen o'r sefyllfa hon a mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys. Yn bwysig, cawn ymdeimlad fod y staff eu hunain yn credu bod y sefydliad wedi ymrwymo i ddysgu a thyfu. Mae'r ymdeimlad hwn o sefydliad y gallant fod yn falch o fod yn rhan ohono yn hanfodol ar gyfer denu a chadw staff ar bob lefel, ac mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi'r bwrdd iechyd mewn mesurau i godi ysbryd staff yn hytrach nag ymosod arnynt o hyd.
Gan droi at yr hyn y mae'r cynnig yn galw amdano, hoffwn nodi bod y bwrdd iechyd eisoes wedi ymddiheuro. Mae'n ddrwg gennym fod pobl wedi cael y profiadau gwael hyn, ac maent eisoes wedi ymddiheuro. Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi ymrwymo i gyhoeddi pob adroddiad y mae'n ei gomisiynu. Roedd staff wedi cael gwybod y gallent siarad â Holden yn gyfrinachol, ac roedd y bwrdd iechyd yn pryderu y byddai enwau unigolion yn cael eu datgelu heb y golygiadau priodol, ac y byddai gwneud hynny'n tanseilio hyder staff wrth godi pryderon yn y dyfodol. Mae'r bwrdd iechyd, serch hynny, wedi dysgu o'r broses hon, ac erbyn hyn, mae ganddo bolisi ar waith ar gyfer adroddiadau sylweddol a fydd yn cael eu comisiynu gyda'r bwriad o'u cyhoeddi i atal materion o'r fath rhag codi yn y dyfodol. Gofynnir inni gyflawni gwelliannau radical yn y modd y darperir wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Rydym eisoes yn gwneud hyn.
Gan droi at ganolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr, fel rwyf wedi'i ddweud sawl tro yn y Senedd hon, ein dull o wella iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc yw sicrhau bod cymorth iechyd meddwl wedi'i ymgorffori ar draws y lleoliadau lle maent yn byw eu bywydau, gan gynnwys ysgolion, colegau a chymunedau. Bydd cyflwyno ein fframwaith NYTH yn rhan allweddol o'r dull hwn, a bydd ein dysgu yn llywio ein gwaith ar ddatblygu fframwaith NYTH i oedolion. Rwy'n gobeithio y bydd ein gwaith atal yn rhwystro problemau rhag gwaethygu'n argyfyngau, ond gwyddom fod angen gwella mynediad at gymorth mewn argyfwng i blant ac oedolion. Mae hyn yn cynnwys darparu un pwynt cyswllt iechyd meddwl ar gyfer pob oedran drwy wasanaeth 111, a datblygu mwy o ddewisiadau yn lle derbyn i'r ysbyty. Fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym hefyd wedi ymrwymo i brofi darpariaeth noddfa i bobl ifanc fel rhan o'r llwybr ehangach hwn i wella—