Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gresynu at gywair ymateb y Dirprwy Weinidog i’r ddadl hon heddiw. Mae'r rhain yn faterion difrifol gerbron y Senedd. Nid yw'n iawn ein bod yn feirniadol o staff. Mewn gwirionedd, rydym wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn wir, ar Lywodraeth Cymru, i ymddiheuro i staff am beidio â mynd i’r afael â’r methiannau. Credaf fod hynny'n dangos cryn dipyn o gefnogaeth a chydymdeimlad â'r staff ar y rheng flaen sydd wedi bod yn gweithio'n galed i geisio cyflawni gwelliannau.
Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod adroddiad Holden wedi datgelu methiannau difrifol, mor bell yn ôl â 2013, ym maes gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru: diwylliant o fwlio a bygwth, prinder staff, cleifion yn cael eu hesgeuluso, a rhai'n cael eu niweidio. Ac mae'n ffaith ei bod wedyn wedi cymryd mwy o amser, tan fis Mehefin 2015, er gwaethaf honiadau’r Gweinidog fod camau wedi'u rhoi ar waith yn gyflym, i roi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, pan oedd adroddiad arall yn dweud, i bob pwrpas, fod yr un pethau'n digwydd ar ward Tawel Fan, i lawr y ffordd yn Ysbyty Glan Clwyd, pethau a oedd hefyd yn broblemus a lle cafwyd methiannau difrifol ac esgeulustod sefydliadol.
Ni chredaf fod gweithredu wedi digwydd yn ddigon cyflym. Ac yn y cyfamser, mae arnaf ofn, Ddirprwy Weinidog, fod eich Llywodraeth wedi caniatáu i gleifion pellach gael eu niweidio, eu hesgeuluso a wynebu'r gamdriniaeth sefydliadol honno. Mae hynny'n ffaith, p'un a ydych yn ei hoffi ai peidio. Ac am hynny, byddwn wedi meddwl y byddai wedi bod yn ddigon gweddus heddiw i'r Llywodraeth ymddiheuro i'r cleifion yr effeithiwyd arnynt, y mae rhai ohonynt wedi marw bellach, eu hanwyliaid, ac yn wir, y staff y gwnaed cam difrifol â hwy gan arweinyddiaeth bwrdd Betsi Cadwaladr, a Llywodraeth Cymru yn wir, a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru ar yr adeg honno.
Pan osodwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, dywedwyd wrthym, gyda chryn dipyn o ffanffer, y byddai gwelliannau sylweddol o fewn 100 diwrnod yn y bwrdd iechyd hwnnw mewn perthynas â gofal iechyd meddwl yn y rhanbarth. Ond ni ddigwyddodd hynny. Bum mlynedd a hanner yn ddiweddarach, cafodd y bwrdd iechyd ei dynnu o fesurau arbennig, er bod heriau enfawr heb gael eu datrys ym maes gofal iechyd meddwl, a llawer o'r methiannau a nodwyd yn Holden, a nodwyd yn Ockenden, a nodwyd yn adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol—er gwaethaf eu casgliad gwarthus yn eu hadroddiad na fu unrhyw gam-drin sefydliadol—heb gael sylw. Datganiadau a ffeithiau yw'r rhain.
Felly, mae claddu eich pen yn y tywod a dweud bod popeth yn gwella—fe ddywedoch chi fod rhai 'gwelliannau mawr' wedi bod—a ninnau wedi cael dwy farwolaeth ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn yr unedau iechyd meddwl hyn dros y 12 mis diwethaf, marwolaethau y gellid bod wedi eu hatal pe bai rhywfaint o'r camau a addawyd wedi'u cymryd, yn ffiaidd a dweud y gwir. A dweud y gwir, mae'n ffiaidd. Ac mae methu deall realiti'r sefyllfa a chydnabod pan fo gwasanaeth yn methu ac angen gwella yn annerbyniol.
Pryd y byddwn yn gweld y gwelliannau hyn a addawyd? Mae'r heriau enfawr hyn yn dal i fodoli chwe blynedd yn ddiweddarach ar ôl rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig oherwydd ei wasanaethau iechyd meddwl. Rydych yn gwneud cam â phobl gogledd Cymru. Rydych yn gwneud cam â'r cleifion iechyd meddwl. Rydych yn gwneud cam â'r bobl fregus hyn sydd angen ein cymorth yn enbyd. A chredaf fod awgrymu bod popeth yn ardderchog, fod popeth wedi gwella'n sylweddol, yn gwbl warthus. Bu oedi sylweddol cyn i Lywodraeth Cymru weithredu.
Fe sonioch chi am drafodaethau â rhanddeiliaid. Beth am yr adborth gan gleifion? Beth am yr adborth gan deuluoedd? Ni chlywais unrhyw gyfeiriad gennych atynt yn eich ymateb. Oherwydd gallaf ddweud wrthych o fy ngwaith achos fy hun nad yw pobl yn hapus. Nid yw'r sefyllfa'n dda. Mae angen i'r sefyllfa wella'n sylweddol o hyd, ac oni bai fod gennym Weinidog a all gydnabod hynny, ni fydd gennym unrhyw un yn mynd i'r afael â'r heriau hyn.
Nawr, rwyf am ddweud hyn: mae gennyf lawer o ffydd yn y prif weithredwr newydd ac yng nghadeirydd y bwrdd iechyd, a chredaf eu bod yn wirioneddol benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn unwaith ac am byth. Rwy’n mawr obeithio y byddwch yn rhan o’r tîm i wella'r sefyllfa, ond mae arnaf ofn, gyda’ch agwedd a’r ymateb gwleidyddol gelyniaethus diangen a roesoch heddiw—ac nid wyf yn bod yn wleidyddol yma; y pwynt rwy'n ei wneud yw bod angen Llywodraeth arnom sy'n cydnabod bod y rhain yn heriau—ac oni bai eich bod yn barod i'w hwynebu, i fuddsoddi, er mwyn sicrhau bod y sefyllfa hon yn gwella, rydym yn mynd i gael mwy o farwolaethau, mwy o esgeulustod a mwy o bobl yn cael eu niweidio o ganlyniad i'r sefyllfa. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.