Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, mae gennym ddadl arall wedi'i chyflwyno ar dlodi, problem hirsefydlog i'r Senedd hon, ac mae cysylltiadau hysbys na ellir eu gwadu rhwng tlodi ac ansicrwydd bwyd. O gofio bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, nid yw'n syndod bod ansicrwydd bwyd yn broblem fawr sy'n wynebu llawer o aelwydydd yng Nghymru. Wrth gwrs, ceir camau cadarnhaol ar y gorwel: prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, er enghraifft, rhywbeth rwyf fi, fel rhywun a arferai gael prydau ysgol am ddim, yn hynod falch ohono. Mae gwybod y bydd pob disgybl ysgol gynradd, cyn bo hir, yn cael prydau ysgol am ddim a bod fy mhlaid i a'r Llywodraeth wedi dod at ei gilydd, er gwaethaf ein gwahaniaethau, yn gwneud i mi deimlo'n emosiynol iawn. A phan fydd yn digwydd, mae'n siŵr y bydd yn un o adegau mwyaf balch fy ngyrfa wleidyddol.
Ond rwy'n siŵr na fydd yn syndod i'r Aelodau glywed fy mod yn credu bod angen inni fynd ymhellach eto. Ni ddaeth prydau ysgol am ddim i ben i mi yn yr ysgol gynradd, ond rydym wedi cymryd y cam cyntaf tuag at gynnwys bwyd a mynediad at fwyd yn rhannau hanfodol o'r profiad addysg, ac wrth gwrs, ar ei lefel sylfaenol, dyna rydym yn ceisio'i gyflawni gyda'n cynnig. Dylai'r hawl i fwyd fod yn hawl ddiymwad i bob dinesydd, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang. Ni allwn oroesi na ffynnu hebddo. Dyna pam y dylid ymgorffori'r hawl i fwyd ym mhob polisi sy'n ymwneud â thlodi.
Tlodi yw un o'r ffactorau cliriaf a mwyaf sy'n cyfrannu at ansicrwydd bwyd, ac mae tlodi wedi bod ar gynnydd yng Nghymru yn dilyn blynyddoedd o gyni, twf economaidd wedi'i lesteirio yn sgil COVID-19 a Brexit, a phrisiau cynyddol. Rydym yn gweld argyfwng tlodi bwyd yn deillio o'r dewisiadau gwleidyddol a'r methiannau systemig a grëwyd dros y pedwar degawd diwethaf gan ddod â ni at ymyl y dibyn mewn cynifer o'n cymunedau. A hyn, wrth gwrs, er bod Cymru'n rhan o'r DU, un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd.
Yn 2017 a 2018, profodd bron i un o bob 10 o bobl yng Nghymru lefel isel o ddiogelwch bwyd, ac aeth 14 y cant o bobl yn brin o fwyd cyn y gallent fforddio prynu mwy. Canfu cynghrair tlodi bwyd de Cymru y byddai angen i aelwydydd ag incwm yn yr 20 y cant isaf yng Nghymru wario 36 y cant o'u hincwm i fodloni canllaw Bwyta'n Iach Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid i fwy o bobl yng Nghymru newid eu harferion bwyta a phrynu am resymau ariannol na'r cyfartaledd yn y DU, ac mae lefelau ansicrwydd bwyd ymylol hefyd yn uwch yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU. Mae ein system les, ein system ddiogelwch cymdeithasol, yn amlwg yn methu diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas drwy fethu darparu digon ar gyfer bwyd angenrheidiol i'r rhai sydd ei angen. Er mwyn mynd i'r afael yn iawn â thlodi bwyd, rhaid cael newid systemig. Nid yw cynyddu taliadau lles neu gymorth i fanciau bwyd yn mynd i'r afael ag achos sylfaenol y broblem nac yn rhoi'r urddas y mae ganddynt hawl iddo i bobl.
Os caf droi'n fyr at welliannau'r Ceidwadwyr am eiliad, ni fydd cael mwy o bobl mewn gwaith yn datrys y broblem os nad yw'r gwaith hwnnw'n dda neu'n deg. Mae mwy nag un rhan o bump o weithwyr Cymru yn ennill llai na'r cyflog byw go iawn, ac mewn rhai ardaloedd yn ne Cymru mae hyn yn codi i chwarter neu hyd yn oed i draean. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru mewn gwaith ar hyn o bryd, ac roedd un o bob chwech o bobl a gafodd eu cyfeirio at fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yn y DU mewn gwaith, sy'n dangos nad yw cyflogaeth yn gallu gwarantu ffordd allan o dlodi. Mae'r gwelliant hefyd yn sôn am gynllun Kickstart Llywodraeth y DU ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed sydd ar gredyd cynhwysol. Mae'n darparu cyllid i gyflogwyr i dalu'r isafswm cyflog cenedlaethol am chwe mis, ond yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 18 i 20 oed yw £6.56 yr awr. Sut y mae hyn i fod i helpu rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft, i ddechrau byw ar eu pen eu hunain a pheidio â phoeni o ble y daw eu pryd nesaf? Nid yw'n agos digon.
Ar fater plant a phobl ifanc, roeddwn am godi mater tlodi plant ac effaith tlodi bwyd ar blant. Bydd aelwydydd yng Nghymru sydd â phlant yn profi mwy o bwysau ariannol o gostau bwyd cynyddol a thlodi na'r rhai heb blant. Amcangyfrifodd y Sefydliad Bwyd fod deiet iach yn fwyfwy anfforddiadwy yn achos oddeutu 160,000 o blant yng Nghymru. Dair wythnos yn ôl, ar 17 Tachwedd, codais fater tlodi plant Cymru yn y Siambr hon, lle nodais fod 54,000 o barseli banciau bwyd wedi mynd i blant yng Nghymru dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, o'i gymharu â dim ond 35,000 yn ystod 2017 a 2018. Ar yr un gyfradd, o heddiw ymlaen, byddai mwy na 3,000 o barseli bwyd wedi mynd i blant yng Nghymru ers imi wneud y datganiad hwnnw. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhagdybio nad yw'r sefyllfa wedi gwaethygu, ac mae llawer o ddangosyddion yn awgrymu y bydd yn parhau i wneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio bod fy sylwadau wedi'u cymryd gan feinciau'r Ceidwadwyr fel rhai adeiladol ac nid fel rhai pleidiol, a dywedaf hyn oherwydd credaf fod hwn yn fater sy'n trosgynnu gwleidyddiaeth plaid. Yn wir, mae'n fater trawsbleidiol. Dylai pawb gael mynediad diogel at fwyd maethlon o safon. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gall pob un ohonom gytuno arno, ni waeth beth fo'n credoau gwleidyddol. Dyna'n bendant yw athroniaeth Baobab Bach ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, ac athroniaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n darparu brecwast am ddim mewn ysgolion i'w myfyrwyr, a dyna yw athroniaeth sefydliadau cymunedol eraill sy'n gweithio ar dlodi bwyd ledled Cymru, ac mae pawb ohonom wedi ymweld â sawl un ohonynt ac wedi eu crybwyll cyn hyn yn y Siambr hon.
I gloi, rwyf am ddangos pwysigrwydd yr ymgyrch Hawl i Fwyd a'i natur drawsbleidiol, a thalu teyrnged i'r gwaith sydd eisoes ar y gweill yn San Steffan gan Beth Winter AS ac Ian Byrne AS, y cyfarfûm ag ef yn rhithwir mewn panel Cynulliad y Bobl ar yr union fater hwn. Mae'r ddau wedi bod yn gweithio ar draws y pleidiau i gael hyn ar yr agenda yn San Steffan, gan ennill cefnogaeth ASau Plaid Cymru, ASau'r SNP, ASau Llafur, ASau Ceidwadol, ASau'r Democratiaid Rhyddfrydol—ac rwy'n rhoi'r gorau iddi yn y fan honno gan fy mod yn credu bod yr Aelodau'n deall. Rwy'n gobeithio y gellir efelychu hynny yma yn y Senedd wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod arnom ddyletswydd i'n holl etholwyr sy'n byw mewn tlodi bwyd bob dydd o'u bywydau i ddod at ein gilydd yma i ddatrys y broblem. Diolch.