7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:06, 8 Rhagfyr 2021

Roedd Peter Fox yn sôn yn rymus iawn am gael cynlluniau bwyd lleol. Rwy'n croesawu'r syniad yna yn fawr iawn. Fe soniodd Peredur Owen Griffiths a Jenny Rathbone am, ac fe wnaethon nhw dynnu sylw at, y broblem yma o bobl yn methu fforddio tanwydd, wrth gwrs, i goginio eu bwyd, a phwysigrwydd newid ein perthynas â bwyd. Mae'n anodd credu, onid yw e, â'r Deyrnas Gyfunol yn un o wledydd cyfoethocaf y byd—y byd—fod llawer o bobl yn cael hi'n anodd fforddio bwyd, ac mae eu hiechyd wedyn yn dioddef.

Dwi'n wyres i löwr, ac roedden nhw ar streic ym 1926, a dwi wedi clywed am yr hanesion, am y caledu a'r prinder bwyd bryd hynny gan fy mam-gu. Mae'n anodd credu ein bod ni—ac mae llawer wedi sôn am hyn—bron ganrif yn ddiweddarach yn sôn am lefel o angen sydd wedi gweld atgyfodi'r angen am y cydweithredu cymunedol yna a gadwodd teuluoedd ein gweithwyr rhag llwgu yn y 1920au a'r 1930au.

Rwy'n gwirfoddoli gyda fy manc bwyd lleol i, Y Pantri ym Mhontardawe. Mae'r modd y mae'r gymuned yn dod at ei gilydd i geisio sicrhau bod gan bobl ddigon i'w fwyta yn ysbrydoledig. Dydyn ni ddim yn taflu unrhyw fath o sen ar y banciau bwyd, ond mewn gwirionedd mae eu bodolaeth nhw yn yr oes sydd ohoni yn gwbl droëdig.

Mae ein cynnig ni yn sôn am yr hawl i fwyd, ac fe soniodd Huw Irranca-Davies yn rymus am hyn, a phwysigrwydd y ffaith taw hawl yw e, a sut mae llywodraethau ac arweinwyr gwleidyddol wedi methu yn eu dyletswydd i gynnal yr hawl yma. Ers datganoli mae Cymru yn aml wedi ymfalchïo yn y camau blaengar y mae wedi'u cymryd ym meysydd hawliau, fel hawliau plant, er enghraifft, y clywsom ni sôn amdano yn y Siambr yma ddoe. Un o nodau datblygu cynaliadwy byd-eang y Cenhedloedd Unedig yw dileu newyn erbyn 2030, nod sy'n cael ei gydnabod gan y Llywodraeth yma yn ei hadroddiad atodol i adolygiad cenedlaethol gwirfoddol y Deyrnas Gyfunol o gynnydd tuag at y nodau hyn, ac mae'r datganiad ein bod ni yng Nghymru yn gwneud pethau yn wahanol yn cael ei frolio yn yr adroddiad hwnnw. Mae'r rhagymadrodd, yn enw Mark Drakeford a Jane Hutt, yn nodi bod nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn gosod agenda uchelgeisiol er mwyn trawsnewid y byd i'r bobl ac i'r blaned er mwyn iddynt ffynnu.

'Rydym ni’n rhannu’r uchelgais hon yng Nghymru, ac rydym wedi ymroi i gyfrannu at y nodau', medd ein Prif Weinidog a'n Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a chydraddoldeb. O gofio'r ymrwymiad hwnnw, felly, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan elfennol o'r polisïau ar draws y Llywodraeth sy'n mynd i'r afael â thlodi ac anfantais economaidd.

Rwyf am eich atgoffa chi unwaith eto pam mae hyn mor allweddol, drwy ailadrodd yr hyn yr ydym yn nodi yn ein cynnig, sef bod chwarter pobl Cymru mewn tlodi a'r defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu, a bod ansicrwydd bwyd yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles ein pobl. Ac ydy, mae ansicrwydd bwyd yn fater o ddiogelu iechyd cyhoeddus. Rydym ni wedi clywed gan Peredur Owen Griffiths sut y gall ansicrwydd bwyd gael effaith ddifrifol ar iechyd pobl hŷn, bod y rhai sy'n profi ansicrwydd bwyd yn fwy tebygol o gadw bwyd yn hirach a bwyta bwyd y tu hwnt i'r dyddiad mae'n ddiogel i'w fwyta. Mae hyn, ynghyd â mynd heb fwyd neu fwyta deiet anghytbwys, yn gallu deillio, wrth gwrs, o dlodi, ac mae'n rhoi pobl mewn perygl o ddiffyg maeth, gwenwyn bwyd, afiechyd. Sawl tro dros y misoedd diwethaf rŷm ni wedi clywed cyfeiriadau yn y Siambr hon at y storm berffaith o incwm yn gostwng a chostau byw yn cynyddu, o tswnami o angen sydd yn raddol godi ac ar fin taro gormod o'n haelwydydd? Mae'r cysylltiad rhwng prisiau bwyd yn codi wrth i incwm pobl ostwng yn gwbl amlwg, ac mae'r modd y mae bwyd yn rhan o'r hafaliad pryderus yma yn ganolog i'n dadl ni y prynhawn yma. Mae'n hysbys bod maeth mewn deiet yn gostwng wrth i'r ffactorau yma ddod ynghyd, ac wrth i hynny ddigwydd, mae'r tebygolrwydd o afiechyd a salwch yn cynyddu, ynghyd ag effaith negyddol, wrth gwrs, ar gyflyrau iechyd sydd eisoes yn bodoli, fel dywedodd Peredur.

Wrth gloi, felly, fe erfyniaf arnoch i gefnogi ein galwad ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru i ymrwymo i gyflawni eu dyletswydd fwyaf gwaelodol: bwydo eu pobl a rhoi taclo tlodi ar ben pob agenda. Does dim modd gwadu bod rhywbeth mawr o'i le ar ein cymdeithas. Rhaid sicrhau nad oes yna rwystr i bobl fwynhau y mwyaf sylfaenol o'u hawliau dynol—yr hawl i fwyd. Diolch.