Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio am heddiw. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau iechyd meddwl, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 28 o blaid, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.