Part of the debate – Senedd Cymru am 7:15 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Byddai'n well i mi nodi ar ddechrau hyn fy mod weithiau'n teimlo fel Jeremiah deddfol a chyfansoddiadol, ond rydym eisiau ei gwneud hi'n glir fel pwyllgor mai ein bwriad yw nid yn unig dangos lle mae gennym ni bryderon, ond hefyd, tynnu sylw'n adeiladol at feysydd a allai helpu i osgoi'r heriau rheolaidd hyn gan y pwyllgor, mae rhai ohonyn nhw bellach yn dilyn patrwm clir a rhagweladwy.
Memorandwm yw'r sail ar gyfer ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer Bil, wrth gwrs. Yn anffodus, daethom i'r casgliad nad oedd y memorandwm penodol hwn yn addas i'r diben ac yn is na'r safon y byddem yn ei hystyried yn dderbyniol. Ymhlith pethau eraill, prin yw'r wybodaeth i egluro sut y mae'r darpariaethau'n ymwneud â diwygio lesddaliad yng Nghymru, sy'n bwynt allweddol. O fewn y memorandwm, ceir cyfeiriadau parhaus at bwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, er bod hwn yn faes datganoledig. Er bod y memorandwm yn cydnabod y byddai Llywodraeth Cymru yn wir yn ceisio pwerau gweithredol tebyg i Weinidogion Cymru, ychydig o ymdrech a wnaed i egluro pa bwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol y byddai hyn yn berthnasol iddyn nhw.
Felly, o ganlyniad, gwnaethom argymell, cyn y ddadl heddiw, y dylai'r Gweinidog egluro pam nad yw'r memorandwm yn canolbwyntio ar Gymru wrth esbonio'r cymalau perthnasol, y mae pob un ohonyn nhw yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a pham nad oedd y memorandwm yn cyfeirio at agweddau ehangach ar y rhaglen diwygio lesddaliad a'i pherthnasedd i feddylfryd y Llywodraeth ar ddefnyddio Bil y DU. Felly, yn anffodus, mae'r pwyllgor yn dal i weld ymateb y Llywodraeth yn gwbl anfoddhaol. Rydym yn deall bod y Bil i'w wneud ar sail Cymru a Lloegr, ond mae'r memorandwm yn ymwneud ag amgylchiadau yng Nghymru, ac roedd angen i hynny fod yn ganolbwynt. Nid yw'r esboniad ynghylch pam na chafodd materion cymhwysedd eu datrys yn ddigonol yn y memorandwm yn ein hargyhoeddi ni o gwbl.
Nawr, diwygiwyd y Bil yn Senedd y DU ym mis Gorffennaf 2021, i roi'r pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw o'r blaen. Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau a godwyd gennym am y pwerau hyn ar 16 Tachwedd, ond buom yn aros tan 26 Tachwedd i gael, fel y soniodd y Cadeirydd arall, femorandwm Rhif 2 yn esbonio'r gwelliannau hyn. Mae hyn tua phedwar mis ar ôl i'r gwelliannau gael eu cytuno yn Senedd y DU. Felly, mae dau fater i'w datrys yma—yr oedi wrth osod memorandwm Rhif 2, a'r pwerau, y byddaf yn dod atyn nhw wedyn, i wneud rheoliadau sydd i'w cadw gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Felly, mae'r oedi, am ba reswm bynnag, wrth gyfleu gwybodaeth hanfodol i'r pwyllgor tan yn hwyr yn y broses gydsynio, wedi lleihau'n sylweddol faint o amser a gawsom i graffu'n effeithiol ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i geisio cydsyniad i ddeddfu drwy gyfrwng Bil Llywodraeth y DU mewn maes datganoledig, sy'n destun gofid, gan ein bod yn credu y gallai golwg gynharach fod wedi ein helpu ni a'r Llywodraeth.
Gan droi nawr at fater y pwerau i wneud rheoliadau a ddirprwywyd i Weinidogion Cymru, tra bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi'u rhoi iddyn nhw ym mis Gorffennaf, cadwyd rhai gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid oedd esboniad y Gweinidog am y dull hwn yn argyhoeddi'r pwyllgor, a fydd yn dadlau y dylai Gweinidogion Cymru gael yr holl bwerau i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, ac na chânt eu cadw gan yr Ysgrifennydd Gwladol, hyd yn oed gyda rhesymu'r Gweinidog y gallant fod yn cael eu harfer yn aml, neu oherwydd disgwyliad na fyddai polisi'n ymwahanu rhwng Cymru a Lloegr. Byddai rhoi'r holl bwerau i Weinidogion Cymru yn sicrhau y bydd yr holl reoliadau sy'n ymwneud â diwygio lesddaliad, fel sy'n gymwys yng Nghymru, hefyd yn ddwyieithog ac yn destun craffu gan y Senedd. Bydd hefyd yn osgoi cael rhai rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a rhai gan yr Ysgrifennydd Gwladol, nad yw, unwaith eto, yn gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.
Roeddem hefyd o'r farn y dylai Gweinidogion Cymru gael rheolaeth dros gychwyn y darpariaethau diwygio lesddaliad ar gyfer Cymru yn dilyn Cydsyniad Brenhinol. Ni fyddai dull gweithredu o'r fath yn atal yr un darpariaethau rhag cael eu cychwyn yng Nghymru ar yr un pryd â rhai Lloegr; byddai'n golygu bod y pŵer gweithredol a'r craffu yn gorwedd yma yng Nghymru. Felly, cyn ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil, gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog sicrhau ei fod yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod gan Weinidogion Cymru yr holl bwerau i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Ac rydym yn dal i'w chael yn anodd deall pam nad yw'r argymhelliad hwn wedi'i dderbyn. Efallai y byddai wedi'i dderbyn, byddem yn awgrymu, pe bai memorandwm Rhif 2 wedi'i osod yn fwy amserol, a bod cyfle i weithredu'n gynharach mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor a osodwyd yn gynharach wedi hynny.
Felly, mae'r pwyllgor o'r farn bod caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn maes datganoledig yn ddatblygiad annymunol, ac mae'n un a allai osod cynsail sy'n peri gofid. Oherwydd, wrth wneud hynny, nid yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi mesurau diogelu iddyn nhw eu hunain pe bai'r Ysgrifennydd Gwladol, naill ai nawr neu yn y dyfodol, yn gwneud rheoliadau nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â nhw.
Nawr, wrth i ni barhau i amlygu, ac fel yr oedd yn ymddangos bod y Gweinidog yn cydnabod mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, bod defnyddio Bil Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth mewn maes datganoledig yn rhoi llai o gyfle i graffu'n fanwl na defnyddio Bil a gyflwynwyd i'r Senedd. Ni all aelodau'r Senedd, er enghraifft, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflwyno gwelliannau i brofi, herio a dylanwadu ar Weinidogion Cymru—mae hwn yn ddull allweddol o graffu. At hynny, diogelu anghenion a buddiannau Cymru yn llawn drwy ddeddfwriaeth yw swyddogaeth y Senedd mewn meysydd datganoledig, yn hytrach na'r Gweinidog neu ei swyddogion drwy gysylltiadau rhynglywodraethol.
Ac yn olaf, Llywydd, gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog egluro sut y mae'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn gyson â'i hegwyddorion ei hun ar gyfer defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu. Er i'r Gweinidog roi esboniad—a diolchwn iddi am hynny—mae ei hymateb yn codi materion pellach sy'n ymwneud â'r egwyddorion hyn, y bydd ein pwyllgor yn ceisio eu harchwilio ymhellach y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr iawn.