Part of the debate – Senedd Cymru am 7:24 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Dwi am nodi ar y cychwyn fan hyn y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn hwn fel mater o egwyddor. Mae'r Llywodraeth bellach wedi gosod cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 14 o Filiau'r Deyrnas Gyfunol o fewn misoedd cyntaf y Senedd hon. Mae hyn yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, ac eithrio 2020. Mae nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n dod ger ein bron yn destun pryder. Mae pob cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cwtogi ar ein grymoedd ni fel Senedd ac felly yn ymosodiad ar ddemocratiaeth Gymreig. Mae dau o bwyllgorau'r Senedd hon wedi codi pryderon eang ynghylch dogfennau'r memorandwm yma, fel mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi ac mae'r Cadeiryddion wedi nodi.
Dywed y Gweinidog nad ydy hi am i bobl Cymru gael anfantais gan y byddai'n cymryd cyhyd i Gymru ddatblygu ein deddfwriaeth ein hun. Ond pam nad ydy'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw waith i'r perwyl yma eisoes? Ble mae'r ddadl yma'n gadael y Senedd a diben datganoli? Dwi'n grediniol na ddylid rhoi caniatâd yma heddiw. Dwi'n anfodlon â'r dull cwbl annigonol sydd gyda ni wrth ymdrin â'r broses. Doedd yna ddim digon o amser i graffu ar y Bil na'r memorandwm yn y pwyllgor tai a llywodraeth leol, er enghraifft, ac mae'n amlwg bod gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd ei hun farn lom iawn ar y memorandwm yma, fel rydym ni wedi clywed.
Dydy'r Senedd ddim chwaith wedi cael cyfle i graffu ar y gwelliannau i’r Bil mewn unrhyw fodd ystyrlon heblaw am ryw drafodaeth fach yma heno. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r diwygiadau mewn Bil o du'r Deyrnas Gyfunol yn hytrach na chyflwyno ei Bil ei hun, yn golygu nad yw Aelodau nac ychwaith rhanddeiliaid wedi gallu gwneud unrhyw argymhellion heb sôn am newidiadau i ddeddfwriaeth sydd yn effeithio ar Gymru ac sydd wedi'i datganoli.
Mae gan Gymru ei llais ei hun ac mae gennym ni'r Senedd yma i fod yn fforwm i leisio'r farn honno, ond mae'r hawl elfennol yma yn ein democratiaeth yn cael ei wadu i bobl Cymru heno. Os aiff pethau ymlaen fel hyn, yna mae'n codi cwestiwn am ddyfodol datganoli. Byddai'n siwtio San Steffan i'r dim i gael dim mwy na phwyllgor gwaith yn cydsynio'r Deddfau yma yn hytrach na chorff democrataidd grymus yn creu deddfau mewn ymateb i broblemau yma yng Nghymru.
Dwi'n arbennig o bryderus bod y Mesur yn gosod cynsail beryglus trwy roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol yn lle Gweinidogion Cymru. Bydd cydsynio hwn yn golygu nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau i wneud gwelliannau canlyniadol, a allai fod yn angenrheidiol o dan gymal 21 yma, er enghraifft. Dyma enghraifft glir o sut y byddwn ni wedi colli grymoedd yng Nghymru. Dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol yn Llundain sydd â'r pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â ffurf a chynnwys hysbysiadau, yn un o'r cymalau. Does dim cyfeiriad at sut mae'n berthnasol i Gymru, fel sydd wedi cael ei nodi efo siaradwyr blaenorol.
Ac yn olaf, fydd gan Weinidogion Cymru ddim rheolaeth ynghylch pryd y daw'r Ddeddf i rym. Gweinidog, a ydych chi'n credu bod y sefyllfa yma'n dderbyniol? Rydych chi'n dadlau bod rhaid cael cysondeb rhwng Cymru a Lloegr, Weinidog, ond onid ydych yn credu bod y ddadl yma'n gosod cynsail beryglus pan fydd hi'n dod i ddatganoli? Dyma weld datganoli yn crebachu o dan ein trwynau ac nid yn unig nad oes yna ymladd yn ôl, ond bod y Llywodraeth yma yn annog hynny. Nid dyma fy niffiniad i o sefyll cornel Cymru. Yn sgil y diffyg craffu priodol, nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, annigonolrwydd dogfennau ategol a'r bygythiad go iawn i'r Senedd yma a'r setliad datganoli trwy drosglwyddo pwerau i Weinidogion y Deyrnas Gyfunol dros feysydd polisi datganoledig, mi fyddwn i'n annog fy nghyd-Aelodau i bleidleisio yn erbyn hwn heddiw. Diolch.