Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Llywydd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n asesu digonolrwydd amddiffyn rhag llifogydd. Yna maen nhw'n cynllunio, yn hyrwyddo ac yn darparu cynlluniau i leihau perygl llifogydd yn eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisi cenedlaethol ac yn darparu cyllid, gan gynnwys £5.24 miliwn ar gyfer cynlluniau yng Ngorllewin Clwyd yn y flwyddyn ariannol hon.