1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2021.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OQ57361
Llywydd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n asesu digonolrwydd amddiffyn rhag llifogydd. Yna maen nhw'n cynllunio, yn hyrwyddo ac yn darparu cynlluniau i leihau perygl llifogydd yn eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisi cenedlaethol ac yn darparu cyllid, gan gynnwys £5.24 miliwn ar gyfer cynlluniau yng Ngorllewin Clwyd yn y flwyddyn ariannol hon.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wrth fy modd bod arian yn cael ei ddyfarnu i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd. Un o'r ardaloedd hynny sydd i lawr i'w gwella yn fuan iawn yw'r llain arfordirol rhwng Tywyn a Bae Cinmel, sydd, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig o ran y tymor ymwelwyr, a lle mae'r amddiffynfeydd môr arfordirol hynny yn diogelu miloedd lawer o eiddo a busnesau. Un o'r pryderon a godwyd gyda mi am y cynlluniau, sydd wedi cael eu cyhoeddi erbyn hyn, ar gyfer gwella'r amddiffynfeydd môr yn yr ardal hon yw nad yw'r cynlluniau yn ddigon deniadol i'r bobl leol na'r ymwelwyr a fydd eisiau defnyddio'r llwybr arfordirol a'r llain arfordirol yn rhan o'u hamwynder lleol ar gyfer cyfleusterau. Yn ogystal â hynny, yn amlwg, ataliwyd nodyn cyngor technegol 15 dros dro o ran gweithredu'r nodyn cyngor technegol newydd, a fydd yn rhoi mwy o amddiffyniad i gartrefi a busnesau yn y dyfodol. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi, ar ran Llywodraeth Cymru, y bydd pobl Tywyn a Bae Cinmel yn cael lefel dda o ddiogelwch rhag llifogydd er gwaethaf y ffaith nad yw'r nodyn cyngor technegol newydd wedi cael ei weithredu, a pha sicrwydd allwch chi ei roi o ran pa mor ddeniadol y gall yr amddiffynfeydd rhag llifogydd hyn fod, o ystyried y pryderon am y ffaith bod y rhain mewn ardal cyrchfannau twristiaeth?
Llywydd, diolch i Darren Millar am y cwestiynau yna. Gwn pa mor fawr yw ei ddiddordeb mewn materion llifogydd ac erydu arfordirol yn ei etholaeth, a gwn fod ganddo, yn ei hanes personol ei hun, brofiad uniongyrchol o'r hyn y mae'n ei olygu i ddioddef o lifogydd, felly gwn ei fod yn dod â llawer iawn o angerdd ac arbenigedd i'r materion hyn. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu adolygu'r achos busnes amlinellol ar gyfer cynllun arfordirol Llanddulais-Bae Cinmel. Rydym ni wedi gallu dyfarnu gwerth £450,000 o gyllid i gyngor Conwy ar gyfer yr achos busnes llawn a'r dyluniad manwl. Rwy'n gobeithio y bydd hynny yn gyfle i gymryd i ystyriaeth y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud am y ffaith, yn ogystal â'r angen dybryd i ddiogelu cartrefi pobl, bod yr arfordir yn ased cenedlaethol yma yng Nghymru—mae'n dod â llawer o ymwelwyr—a bod angen gwneud y gwaith hwnnw mewn ffordd sensitif i wneud yn siŵr bod yr agweddau economaidd pwysig iawn hynny yn cael eu cynnal i'r dyfodol. Rwy'n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am TAN 15, Llywydd. Mae'r dyddiad gweithredu wedi cael ei ohirio am 18 mis fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod y sail ar gyfer seilio'r cyngor hwnnw—y mapiau ac yn y blaen—yn y drefn orau bosibl. Ond diben TAN 15 yw gwneud yn siŵr nad yw tai yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol mewn mannau sy'n eu rhoi mewn perygl uniongyrchol o lifogydd. Nid oes unrhyw ddal yn ôl o gwbl y tu mewn i Lywodraeth Cymru o ddiben sylfaenol TAN 15 a'r nodyn cyngor diwygiedig a fydd yn cael ei gyhoeddi. Rydym ni eisiau ei gael cystal ag y gallwn. Bydd yr oedi yn caniatáu i ni weithio ymhellach gydag awdurdodau lleol ar yr wybodaeth fanwl sy'n sail i'r polisi, ac yna bydd angen iddo wneud yr hyn y mae Darren Millar yn ei ddweud, o ran gwneud yn siŵr ei fod yn diogelu'r cymunedau hynny a fyddai mewn perygl fel arall.
Rwyf i angen gwirio a ellir fy nghlywed i ar hyn o bryd. A all unrhyw un—? Iawn, gellir fy nghlywed. Diolch. Fy mhroblem i yw nad wyf i'n gallu eich clywed chi. Nid yw hynny yn rhoi caniatâd i chi wneud beth bynnag yr ydych chi'n ei ddymuno, ond fe wnaf i alw'r cwestiwn nesaf. Cwestiwn 2, Rhys ab Owen.