4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 14 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 3:51, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog. Diolch am y datganiad a diolch i'ch swyddogion am eu briff technegol ddoe yn ein cyd-bwyllgor. Roedd yn ddefnyddiol iawn ac yn ddiddorol iawn. Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â chi; mae prosesau cyllidebol a threthiant yn bethau cymhleth iawn, ac nid yw'r cymhlethdod hwn ond wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'n iawn, felly, i sicrhau nad yw trethdalwyr Cymru o dan anfantais o'u cymharu â threthdalwyr eraill ledled y DU pan gaiff newidiadau eu gwneud i drethi rhagflaenol, yn ogystal â chau bylchau treth fel bod modd defnyddio arian i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus—mae'n gwbl iawn ein bod ni'n gwneud hynny. Fodd bynnag, fel rhan o'ch ymgynghoriad ar y Bil, rwy'n gwybod bod rhanddeiliaid fel Sefydliad Siartredig Trethu a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr wedi datgan mai eu safbwynt diofyn nhw yw y dylai deddfwriaeth dreth fod mewn deddfwriaeth sylfaenol, ac yn arbennig yn yr achos lle mae deddfwriaeth yn ymwneud ag arfer pwerau trethu, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol iawn. Ac rwyf i'n cytuno â'r egwyddor hon, ac rwy'n siŵr y byddai llawer yn y Siambr—y Siambr rithwir—yn cytuno â hi hefyd.

Rwy'n credu, i adlewyrchu casgliadau'r Pwyllgor Cyllid blaenorol, fod angen mwy o sail ddeddfwriaethol arnom ni i'n prosesau cyllidebu a phennu trethi yng Nghymru i gefnogi'r gwaith democrataidd o graffu ar wariant cyhoeddus a threthiant. Yn hyn o beth, drwy ddefnyddio rheoliadau i wneud newidiadau i drethiant, gallai'r Bil hwn—ac rwy'n pwysleisio 'gallai'—gael ei ddefnyddio i fynd ymhellach na'r bwriad gwreiddiol. Nawr, rwy'n sylweddoli bod terfynau llym ar ddefnyddio'r pwerau o fewn y Bil, ond mae dal rhywfaint o amwysedd ynghylch pryd y mae modd defnyddio'r pwerau. Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, dywedodd y Sefydliad Siartredig Trethu

'mae'r amgylchiadau lle gellid defnyddio pŵer 1 yn gadael disgresiwn eithaf eang' a bod nifer o dermau sydd wedi eu defnyddio yn yr adran yn amwys a heb eu diffinio. Fodd bynnag, gwrthododd y Llywodraeth y syniad o glo y Senedd ar ddefnyddio pŵer 1. A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, y rheswm pam mae hynny'n wir? A allwch chi egluro'r amgylchiadau hefyd—ac rydych chi wedi sôn rhywfaint am hyn eisoes—lle rydych chi'n rhagweld y bydd angen defnyddio'r pŵer i addasu Deddfau trethi Cymru? Ac, yn y pen draw, pwy yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu pa un o'r profion diben yn adran 1 sydd wedi eu bodloni wrth gyflwyno rheoliadau drwy'r Bil?

Yn olaf, cafodd sylwadau eu gwneud yn ystod yr ymgynghoriad gwreiddiol fod perygl wrth wneud newidiadau lluosog drwy bwerau rheoleiddio o wneud y ddeddfwriaeth sylfaenol yn anodd ei dilyn oherwydd cymaint y croesgyfeirio sydd ei angen. Os oes angen llawer iawn o is-ddeddfwriaeth, a fyddai'n bosibl y byddai angen gwaith i atgyfnerthu'r rhain er mwyn sicrhau bod cyfraith treth mor hygyrch â phosibl? Diolch, Gweinidog.