7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 14 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:40, 14 Rhagfyr 2021

Prynhawn da, a gobeithio bod pawb yn fy nghlywed i. Dyna ni, a diolch yn fawr iawn i’r Gweinidog am y datganiad. Gadewch i ni gymryd ennyd i’n hatgoffa ein hunain pam ein bod ni'n trafod y mater yma heddiw. Yn syml, mae’r system diogelwch adeiladau presennol yn un sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli er mwyn cynyddu elw, ar draul diogelwch y cyhoedd.  

Fedrwn ni fyth, felly, anghofio’r drychineb yna yn Grenfell nôl yn 2017. Yn oriau mân y bore, ar 14 Mehefin 2017, dechreuodd tân losgi drwy floc preswyl Grenfell 24 llawr o uchder yng ngorllewin Llundain, gan ladd 78 o bobl. Mae’n meddyliau ni'n parhau i fod efo’u hanwyliaid nhw, wrth gwrs.

Mae nifer o’r rhai a lwyddodd i ddianc, teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, a thystion i’r erchyllbeth honno, yn dal i fyw efo'r creithiau, ac yn parhau i ddioddef. Mae pobl yn byw mewn ofn ac wedi dioddef yr ofn yma am dros bedair mlynedd—pedair mlynedd heb weithredu. Mae yna wyth mis ers yr etholiad, wyth mis heb ddeddf benodol Gymreig. Mae lesddeiliaid a thenantiaid wedi cael eu dal mewn eiddo nad ydynt yn gallu ei adael. Mae ansawdd eu bywydau a’u hiechyd meddwl wedi dirywio o ganlyniad. Mae’n hen bryd i ni ymateb i’r sefyllfa hunllefus yma efo brys, drwy raglen diwygio gynhwysfawr, cymorth ariannol pellach ac amserlen glir. 

Fel llefarydd fy mhlaid dros dai a chynllunio, dwi am gymryd eiliad i groesawu’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth. Mae’r cytundeb yn cynnwys amryw o ymrwymiadau, gan gynnwys ymrwymiadau i ddiwygio’r system diogelwch adeiladau presennol yn sylweddol, ac i gyflwyno ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio efo'r Gweinidog wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, dwi’n gresynu’r ffaith na ddaeth y datganiad yma ynghynt, a dwi am bwysleisio'r angen i’r Llywodraeth gadw mewn cyswllt cyson efo’r rhanddeiliaid. Wedi’r cyfan, pwysau ymgyrchwyr a gwleidyddion fel Rhys ab Owen sydd wedi sicrhau bod y mater yn cael y sylw yma o'r diwedd.

Dwi am droi at un agwedd o’r datganiad lle dwi’n credu bod angen mwy o fanylder, os gwelwch yn dda. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at gynllun mortgage buy-out, cynllun lle mae pobl mewn caledi ariannol ac yn byw mewn adeiladau uchel sydd efo problemau diogelwch yn cael ymgeisio am gynllun lle bydd y Llywodraeth yn prynu’r fflat ac yn ei roi i landlord cymdeithasol. Mae’n debyg nad oes yna syniad clir o ran faint o bobl allai fod yn gymwys i’r cynllun, dim ond cyfeiriad at unigolion mewn caledi ariannol, ac na fydd y cynllun ychwaith yn dod i rym am o leiaf tri mis.

Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, os caf i, egluro faint o bobl fydd yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn? Llywydd, beth yn union y mae’r Llywodraeth yn golygu wrth ddweud pobl mewn 'caledi ariannol difrifol'? Hynny ydy, beth ydy’r meini prawf ar gyfer y categori yma? Hefyd, erbyn pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r cynllun yma ddod i rym yn union, os gwelwch yn dda? Pa gymorth gall y Llywodraeth ei gynnig wedyn i'r rhai sy'n dioddef materion diogelwch adeiladu yn y cyfamser? A beth am bobl sydd ddim yn disgyn i ddiffiniad y Llywodraeth o galedi ariannol?

Eto, tra’n ystyried y rhan o’r datganiad yma sy’n sôn am ddeiliaid les presennol a’r gobaith o gynnig cymorth i brynu eu heiddo yn y flwyddyn newydd, does dim llawer o fanylion. Llywydd, fedrith y Gweinidog gynnig ychydig mwy o fanylion inni, os gwelwch yn dda, ar faint o gyllid fydd yn cael ei neilltuo yn union?

Mae’n eithaf clir y gall problemau godi o ran pris eiddo hefyd, fel rydyn ni wedi ei weld yn ddiweddar. Felly, beth fydd yn digwydd a pha ddatrysiadau all y Llywodraeth eu cynnig, os nad ydy pobl yn cytuno efo gwerth y farchnad wrth werthu'r eiddo yma? A phwy yn union fydd yn gweinyddu’r broses? Yn olaf, pa hawliau fydd gan denantiaid sydd yn rhentu gan landlordiaid sydd efo les? Diolch yn fawr iawn.