Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl bwysig hon ar ran Plaid Cymru. Mae hon yn agwedd mor allweddol o'r cwricwlwm newydd, ac yn agwedd rŷn ni wedi bod yn gyson gefnogol ohoni drwy gydol taith y cwricwlwm newydd drwy'r Senedd, gan y bydd, gobeithio, yn arwain at gyfle hanesyddol i feithrin agweddau a dealltwriaeth o gydraddoldeb yn ein cymdeithas o ran ymagwedd at y rhywiau, rhywedd a rhywioldeb.
Rwy'n hynod o falch o nodi bod addysg cydberthynas a rhywioldeb wedi derbyn cefnogaeth eang gan ymarferwyr a dysgwyr fel ei gilydd, yn ogystal â chyrff cyhoeddus a rhieni. Roedd y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y cod drafft yn gefnogol ar y cyfan i'r dull cyffredinol o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, gydag agweddau cadarnhaol tuag at y dull a gymerwyd yn cael eu llywio gan wahanol safbwyntiau. Roedd cymaint o'r rhai wnaeth ymateb yn deall y byddai darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn effeithiol wrth gefnogi lles plant a phobl ifanc ac wrth hyrwyddo hawliau'r plentyn, a bod y ddarpariaeth honno'n adlewyrchu neu'n adeiladu ar arferion addysgu presennol mewn ysgolion.
O ran lles plant a phobl ifanc, roedd yn cael ei gydnabod y byddai darpariaeth briodol yn darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder i archwilio eu bydoedd a'u sfferau cymdeithasol yn ddiogel ac yn hyderus, ac yn diogelu eu lles emosiynol a chorfforol. Yn y pen draw, y gobaith, wrth gwrs, yw y bydd yn galluogi plant a phobl ifanc i ganfod eu ffordd yn hyderus ac yn ddiogel o fewn cymdeithas sy'n newid yn barhaus—cymdeithas wahanol iawn, fel dywedodd y Gweinidog, i'r un y gwnaethon ni gael ein magu ynddi.
Yn ogystal, ystyriwyd bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn hanfodol wrth ddarparu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o berthnasoedd sydd â pharch wrth eu craidd, ac wrth ddarparu gwybodaeth gytbwys a diduedd a all amddiffyn a grymuso plant a phobl ifanc—syniad sy'n cael ei gefnogi ymhellach gan y pwyslais pellach ar hawliau'r plentyn oddi mewn i'r cynigion sy'n deillio o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Erbyn hyn, ers yr ymgynghoriad ar y cod drafft, gwnaed newidiadau i'r cod, ac mae'r rhain wedi'u hamlinellu'n rhannol gan y Gweinidog. Felly, byddwn yn gobeithio y gallai'r Gweinidog ddarparu mwy o fanylion am y newidiadau, y rhesymeg y tu ôl i newid y cod a sut mae'n credu y bydd y newidiadau hyn yn effeithio'n gadarnhaol neu'n cryfhau darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb.