Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Mae rhaglen y cynllun buddsoddi i arbed yn parhau i ddarparu cymorth ar gyfer ystod o fentrau newid sy'n cael eu cyflawni ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru. Ers 2009, mae'r gronfa wedi buddsoddi gwerth bron i £200 miliwn.