Mercher, 15 Rhagfyr 2021
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn...
Yr eitem gyntaf ar gyfer y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.
1. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i alluogi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fuddsoddi'n weithredol mewn cynhyrchu ynni ac effeithlonrwydd ynni wrth ddyrannu cyllid i'r...
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed? OQ57348
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Peter Fox.
3. Pa gymorth ariannol y bydd y Gweinidog yn ei roi i awdurdodau lleol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau dros fisoedd y gaeaf? OQ57372
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi caffael Llywodraeth Cymru yn y sector cyhoeddus? OQ57351
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl clercod cynghorau cymuned? OQ57366
6. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ddarparu cyfarpar diogelu personol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OQ57381
7. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ddarparu gwasanaethau cam-drin domestig wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol? OQ57378
8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi croesawu byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel ffordd o sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n fwy...
Y cwestiynau nesaf, felly, fydd i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â ffermwyr ynghylch sefyllfaoedd posibl lle ceir achosion o TB? OQ57349
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo bwyd a diod o Ogledd Cymru? OQ57373
Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd hela trywydd ar ei dir ar les anifeiliaid? OQ57362
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i arallgyfeirio ar ffermydd? OQ57387
5. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ57364
6. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella lles anifeiliaid mewn lladd-dai? OQ57357
7. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi ailgartrefu cŵn? OQ57370
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu addewid Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio? OQ57365
9. Pa fesurau y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod cadwyni cyflenwi amaethyddol yn eco-gyfeillgar ac yn gynaliadwy? OQ57369
10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag anffurfio anghyfreithlon fel tocio clustiau cŵn mewn lleoliadau domestig? OQ57367
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol y prynhawn yma.
Symudwn ymlaen at y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r cyntaf y prynhawn yma gan Elin Jones.
Eitem 5, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: trothwy llofnodion deisebau. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Lesley Griffiths.
Eitem 6 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y broses cydsyniad deddfwriaethol. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.
Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, 'Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd...
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl gan Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y broses gydsyniad deddfwriaethol. Dwi'n galw am...
I'r rhai ohonoch chi sy'n gadael, pob dymuniad da ichi am y Nadolig. I'r rhai ohonoch chi sy'n aros i glywed y ddadl fer, yna fe fyddwn ni yn symud ymlaen at y ddadl fer honno, yn enw Mike Hedges.
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i gefnogi awdurdodau lleol i gynyddu bioamrywiaeth wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd?
Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i leihau effaith llygredd amaethyddol ar ansawdd afonydd a dyfrffyrdd Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia