Awdurdodau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:55, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Darperir cyllid drwy'r setliad llywodraeth leol sydd heb ei neilltuo i gefnogi darpariaeth gwasanaethau drwy'r flwyddyn. Cafwyd cynnydd o 3.8 y cant yn y cyllid hwn yn y flwyddyn ariannol hon. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid drwy gronfa galedi llywodraeth leol ac mae wedi cyhoeddi £42 miliwn o gyllid ar gyfer mynd i'r afael â'r pwysau ar ofal cymdeithasol.