Awdurdodau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 2:00, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn ystod 10 mlynedd o gyni Torïaidd yn torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus, mae awdurdodau lleol wedi ad-drefnu, ailstrwythuro a gwneud yr holl arbedion effeithlonrwydd y gallent eu gwneud. Maent wedi dod mor effeithlon fel bod unrhyw bwysau newydd, er enghraifft oherwydd tywydd garw, dyfarniadau cyflog neu ddeddfwriaeth newydd, yn eu rhoi mewn perygl o fethu gallu darparu gwasanaethau rheng flaen. Ystyriwyd bod peth deddfwriaeth, megis ymgymryd â'r cyfrifoldeb o sefydlu cyrff cynghori ar gyfer draenio trefol cynaliadwy neu'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, yn niwtral o ran cost, ond nid oes gan rai cynghorau yr adnoddau mewnol na chronfeydd wrth gefn mwyach yn dilyn blynyddoedd o doriadau. A wnaiff y Gweinidog gynnal asesiad risg ariannol ac ymgynghori'n llawn ag awdurdodau lleol cyn pasio unrhyw ddeddfwriaeth neu gyfrifoldebau newydd? Diolch.