Clercod Cynghorau Cymuned

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:10, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Joel James am godi hyn y prynhawn yma. Rwyf am roi ystyriaeth bellach i hyn yng ngoleuni ei sylwadau y prynhawn yma. Ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n rhoi eu hamser i fod yn gynghorwyr tref a chymuned, oherwydd drwy'r pandemig, rydym wedi gweld gwerth y rheini wrth iddynt gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymunedau. Felly, mewn ymateb i'r cwestiwn uniongyrchol, byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny, ond diolch i chi am y cyfle i fynegi fy niolch i'r sector.FootnoteLink