Cyfarpar Diogelu Personol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 2:11, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Weinidog, y rheswm pam rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yw bod canllawiau diogelu a rheoli heintiau yn dangos nad oes gan staff ar wardiau cyffredinol fynediad at fasgiau FFP3. O ystyried esblygiad yr amrywiolion COVID, gan gynnwys yr un rydym i gyd wedi clywed amdano'n ddiweddar yn fwy nag erioed, yr amrywiolyn omicron, efallai y bydd angen adolygu canllawiau atal a rheoli heintiau fel rhagofal. Gallai hyn gynnwys cyflwyno masgiau FFP3 mewn ardaloedd clinig cyffredinol, yn seiliedig ar asesiad risg. Hoffwn wybod pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog iechyd ynglŷn â darparu'r cyllid sydd ei angen i ymestyn argaeledd masgiau FFP3 pe bai'n ofynnol i staff y GIG yng Nghymru eu defnyddio. Diolch.