Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Yn amlwg, elfen allweddol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus a enwir yn y Ddeddf yn cydweithio er mwyn dileu dyblygu. Ac rwyf newydd eich clywed yn dweud wrth Peter Fox, heb ystyried yr arian ychwanegol sydd gennym ar gyfer COVID, sy'n amlwg yn gyfres arbennig iawn o heriau, mae Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn bwriadu lleihau'r gyllideb ar gyfer Cymru, nid y flwyddyn nesaf ond y flwyddyn ganlynol, sy'n eithaf brawychus. Felly, dyna fwy o reswm byth pam fod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl enfawr i'w chwarae drwy eu dulliau gwaith cydweithredol arloesol. A allwch chi ddweud wrthym pa fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rydych yn eu hystyried yn arloesol am arwain y ffordd i ddangos pa mor dda y gallant gydweithio?